Ymwelwyr Castell-nedd Port Talbot yn cael eu tywys o amgylch Campws y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Buodd AS ac AC Aberafan, Dr Hywel Francis a David Rees, ac Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymweld â Champws y Bae, Prifysgol Abertawe, i weld y datblygiadau enfawr sydd wedi cael eu gwneud yno ers i’r gwaith adeiladu gychwyn.

NPT group croppedMeddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard B. Davies, ei fod wrth ei fodd i allu croesawi partneriaid allweddol Prifysgol Abertawe i’r datblygiad cyffrous, gan ni fyddai’r prosiect, sy’n werth £450 miliwn, wedi bod yn bosibl heb eu cymorth.

Cafodd yr ymwelwyr gyfle i ddysgu mwy am y cytundebau a’r cyfleodd swyddi fydd yn elwa’r ardal leol.

Meddai Dr. Francis: “Roedd hi’n hyfryd i weld y datblygiadau enfawr sydd wedi cael eu gwneud ar Gampws y Bae yn Crymlyn Burrows sydd yn ardal fy etholaeth.

“Yr wyf yn hyderus y bydd y campws yn cael ei gwblhau ar amser erbyn Medi 2015, a bydd yn chwarae rôl addysgol ac economaidd pwerus yn y dyfodol wrth i economi’r rhanbarth newid”.


Llun:

O’r chwith i’r dde: AS Aberafan, Dr. Hywel Francis; Yr Athro Iwan Davies, Prifysgol Abertawe; Y Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd-Port Talbot; Yr Athro Richard B. Davies, Prifysgol Abertawe; a David Rees, AC Aberafan.