Yr Ŵyl Ymchwil: Inter-faith Relations: Scriptural Reasoning

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r ddarlith gyhoeddus hon am ddim, ac mae'n rhan o drydedd Ŵyl Ymchwil flynyddol Prifysgol Abertawe, a gynhelir rhwng dydd Mercher, 19 Chwefror a dydd Sadwrn, 22 Chwefror.

Teitl: "Inter-faith Relations: Scriptural Reasoning" 

Siaradwr: Yr Athro Mike Higton, Athro Diwinyddiaeth ac Offeiriadaeth ym Mhrifysgol Durham.

Dyddiad: Dydd Iau, 20 Chwefror 2014

Amser: 7pm

Lleoliad: Theatr Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb  

Yn y ddarlith hon bydd yr Athro Mike Higton yn trafod ein cymdeithas amlffydd ac amlddiwylliannol hynod amrywiol. Bydd yn dadlau bod crefydd yn chwarae rôl bwysig ym mywydau llawer o bobl ac yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o gredoau gwahanol ein gilydd, a bod traddodiadau yn helpu i waredu ofn ac amheuaeth i hyrwyddo mwy o oddef a pharch at ein gilydd.  Po fwyaf o rwystrau anwybodaeth y'u dymchwelir, po fwyaf cytûn a bodlon bydd ein cymdeithas.

Yn y sgwrs hon, bydd yr Athro Higton yn gofyn pam y gall anghenion a galwadau ein cymunedau crefyddol achosi problem i fywydau'r cyhoedd.  Hola p'un ai y gallwn wneud pethau'n well i weld yr anghenion a'r galwadau hynny yn anhrafodadwy, sy'n gofyn am reolaeth yn hytrach nac archwilio a thrafodaeth.

Bydd hefyd yn trafod 'Ymresymu Ysgrythurol', yr arfer canolog a ddatblygwyd ac a archwiliwyd gan Raglen Ryng-ffydd Caergrawnt (CIP), i hyrwyddo trafodaethau da ar draws gwahaniaethau crefyddol a diwylliannol. Mae Ymresymu Ysgrythurol yn cynnwys grwpiau bach o Iddewon, Cristnogion a Mwslemiaid (a nifer cynyddol o aelodau o ffydd eraill hefyd) yn cwrdd i drafod dyfyniadau o'u hysgrythurau eu hunain.  CIP yw'r prif ganolfan ymresymu ysgrythurol yn y DU, ac mae wedi lledaenu ar draws y DU i academyddion, grwpiau dinesig, cymunedau crefyddol lleol, ysgolion a charchardai ledled y wlad.

Meddai'r Athro Higton, "Nid yw'r cyfranogwyr hyn yn cytuno ar awdurdod y testunau gwahanol o'u blaen, nid ydynt yn cytuno ar sut y dylid eu darllen, nid ydynt yn cytuno ar oblygiadau'r testunau hyn i'w bywydau, ond ymddengys ei fod yn bosib cael dadl a sgwrs ddofn a chyfoethog gyda'i gilydd ynghylch y testunau. Drwy'r broses hon, dysgant fwy am draddodiadau ei gilydd, eu hunain a llawer mwy am bosibilrwydd bywydau wedi'u rhannu â'i gilydd."

Sefydlodd Uwch Gaplan Prifysgol Abertawe, y Parchedig Nigel John, y Gyfres Darlithoedd Cyhoeddus Diwinyddiaeth yn 2002, a hyd yma mae wedi trefnu 81 o ddarlithoedd, gan groesawu rhai o ffigurau blaenllaw y byd i Brifysgol Abertawe i siarad am amrywiaeth eang o bynciau.

Meddai'r Parchedig John, "Mae'r darlithoedd yn dangos cyfraniad y Gaplaniaeth a ffydd eraill ar y campws i fywyd deallusol y gymuned, ac ar hyd y blynyddoedd maent wedi bod yn boblogaidd iawn, gan dderbyn cefnogaeth y Brifysgol, a'r cyhoedd hefyd."

 Manylion cyswllt: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan Prifysgol Abertawe. Rhif Ffôn: 01792 205678, estyniad 4442, neu e-bostiwch n.john@abertawe.ac.uk