Ysgol Haf Ieithoedd Modern i ddisgyblion sy'n dysgu Français, Español neu Deutsch trwy gyfrwng y Gymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir Ysgol Haf Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ar y 3ydd a'r 4ydd o Orffennaf eleni.

Modern Languages Summer School

 

‌Mae’r Ysgol Haf yn rhad ac am ddim, ac yn agored i ddisgyblion blwyddyn 12 sydd yn astudio Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer lefel UG.

Mae’r cwrs preswyl dau ddiwrnod yn gyfle gwych i unigolion adolygu ac ymarfer eu sgiliau ieithyddol ar gyfer Safon Uwch, yn ogystal â chael blas o fywyd fel myfyriwr drwy aros dros nos ar gampws y brifysgol.

Bydd cyfle hefyd i sgwrsio gyda siaradwyr brodorol, trin a thrafod ffilmiau tramor, ymarfer sgiliau cyfieithu ar y pryd, a dysgu mwy am yrfaoedd posib gyda sgiliau iaith.

Meddai cydlynydd yr Ysgol Haf, Dr Sophie Smith: “Mae’n bleser cael cynnal yr Ysgol Haf unwaith eto eleni, a hynny am y chweched tro.  Mae’r cwrs yn cynnig profiadau cwbl unigryw i’r rheini sydd yn astudio ieithoedd modern, ac mae’r adborth rydym wedi derbyn gan ddisgyblion yn y gorffennol yn rhagorol. Edrychaf ymlaen yn fawr at groesawi ragor o ddisgyblion unwaith eto eleni”.