Aloha! Staff y Brifysgol yn dod â Hawaii i Abertawe er lles elusen leol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae staff caredig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe wedi codi mwy na £900 ar gyfer elusen leol, Cronfa Freya Bevan.

CHHS Hawaiian event

 

  

 

 

 

 

 

 

 

Bu staff o'r Coleg yn gwisgo sbectol haul, crysau Hawaii a sgertiau gwair i fynd i barti traeth arddull Hawaii a chwis a drefnwyd gan Mrs Shelly Hill a'i chydweithwyr yn adran Gwasanaethau Academaidd y Coleg.

Fel rhan o'r gweithgareddau codi arian, trefnodd y tîm sêl teisennau a raffl hefyd.  Rhoddwyd mwy na 35 o wobrau raffl gan fusnesau lleol, gan gynnwys y cyfle i aros mewn gwesty neu dŷ gwely a brecwast, tocynnau theatr, tocynnau i atyniadau, talebau siopa a thriniaethau sba.

Roedd Freya Bevan o Gastell-nedd yn 19 mis oed yn unig adeg ei diagnosis o diwmor PNET ar yr ymennydd ym mis Mai 2014.  Mae ei thriniaeth hyd yn hyn wedi cynnwys dwy lawdriniaeth sylweddol ar yr ymennydd (bu un yn para dros saith awr), pum sesiwn cemotherapi dwys a thrawsblaniad bôn-gelloedd.

Dychwelodd Freya, sy'n 2 oed, adref i gartref ei theulu ym mis Mai ar ôl 10 wythnos o driniaeth therapi pelydr proton yn Oklahoma, UDA.

CHHS Hawaiian event 2Meddai trefnydd y digwyddiad, Shelly Hill: "Dewiswyd Cronfa Freya Bevan gan fod Freya yn blentyn lleol sydd angen arian am ei thriniaeth yn Unol Daleithiau America.  Roeddem yn gobeithio codi tua £500, felly roeddem wrth ein boddau pan gyrhaeddodd y cyfanswm £910. Bu tîm Lleoliadau'r Coleg yn gweithio mor galed i helpu i godi'r arian ac roedd pawb yn cael llawer o hwyl ar yr un pryd!

"Roedd cydweithwyr yn y Coleg yn gefnogol dros ben ac yn hael iawn wrth gyfrannu at y raffl a gweithgareddau codi arian eraill. Roedd awyrgylch gwych ar noson y parti Hawaii gyda phawb yn mwynhau ac yn ymuno yn hwyl y noson. Roedd y dawnsio limbo'n un o'r uchafbwyntiau!

"Rydym yn falch ein bod wedi gallu cyfrannu at y gronfa yn y ffordd hon ac rydym yn dymuno'r gorau i Freya a'i theulu wrth iddi barhau â'i thriniaeth. 

"Gobeithiwn y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol yn y Coleg, gan fod pawb wedi cael cymaint o hwyl wrth godi arian at elusennau lleol drwy ymuno â'n cydweithwyr mewn digwyddiad mor ddifyr!"

Meddai cynrychiolydd o Gronfa Freya Bevan: "Diolch i bawb ym Mhrifysgol Abertawe a gymerodd ran yn y digwyddiad codi arian i Gronfa Freya Bevan, rydym mor ddiolchgar am eich cyfraniad o £910."