Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae pobl ddigartref yn Abertawe wedi cael gwiriadau iechyd a detholiad o anrhegion a allai wneud byd o wahaniaeth iddynt y gaeaf hwn.
Mae myfyrwyr nyrsio o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe wedi cefnogi Diwrnod Blynyddol Iechyd Pobl Ddigartref Abertawe a gynhelir gan nyrsys PABM, Pat Dwan a Janet Keauffling, gyda chefnogaeth sefydliadau'r trydydd sector yn y ddinas.
Bu Philippa Warren, Fiona Leahy, Amy Rolinson a Lisa Stephens, sydd i gyd yn astudio nyrsio yn y Coleg, yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Cafodd pobl ddigartref a rhai sy'n byw mewn llety anaddas gyfle i gael gwiriad iechyd a brechiadau tymhorol i'w diogelu yn ystod y tywydd oer.
Mae Pat Dwan, sy'n Nyrs Allgymorth Iechyd Meddwl i Bobl Ddigartref, a Janet Keauffling, Nyrs Oedolion Digartref a Diamddiffyn, hefyd yn cynnal Apêl y Gaeaf i Bobl Ddigartref fel y gall cydweithwyr yn PABM helpu eraill sy'n llai ffodus.
Cynhaliwyd y diwrnod iechyd yn Zac's Place, George Street, sy'n darparu gwasanaeth brecwast bob dydd a noson goffi wythnosol i bobl ddigartref.
Roedd yn cynnwys mesur pwysau'r gwaed a glwcos yn y gwaed, sgrinio iechyd rhywiol ac imiwneiddio yn erbyn ffliw ac afiechyd niwmococal.
Darparodd podiatregwyr PABM wiriadau a gofal traed a chafodd y bobl ddigartref gyfle i gael archwiliad deintyddol a chyngor ynghylch brwsio, atal a rheoli pydredd dannedd ac afiechyd y deintgig.
Roedd staff Sands Cymru a WCADA (Canolfan Cymru ar gyfer Gweithredu ar Ddibyniaeth ac Alcohol) wrth law hefyd i ddarparu cyngor ar gyffuriau ac alcohol.
Meddai Janet Keauffling, "Roedd gan y bobl ddigartref a ddaeth i'n gweld anghenion iechyd sylweddol. Roedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw nifer o ffactorau risg ar gyfer marwolaeth a morbidrwydd.
"Roedd angen cyfeirio nifer o bobl neu ddarparu gofal dilynol am gyflyrau a nodwyd ar y dydd.
"Efallai na fyddai'r cyflyrau hyn wedi cael eu nodi fel arall, neu efallai y byddai'r diagnosis wedi cael ei ohirio'n sylweddol pe baen nhw ddim wedi dod i'r sesiwn."
Derbyniodd pob person a gafodd wiriad becyn cymorth am ddim, gan gynnwys nwyddau ymolchi, brwsys dannedd, hancesi papur, gel llaw a hosanau.
Cawsant hefyd rai o roddion staff PABM i Apêl y Gaeaf i Bobl Ddigartref a drefnwyd gan Pat a Janet. Dosbarthwyd y gweddill i bobl ddigartref a rhai sy'n byw mewn llety anaddas yn Abertawe gan yr elusen, Wallich.
Meddai Lisa Stephens, myfyriwr nyrsio, "Roedd ein gwaith ar y dydd yn cynnwys cyfeirio'r bobl ddigartref o gwmpas y gwasanaethau gwahanol a oedd ar gael gan sgwrsio â nhw heb feirniadu.
"Gwnaethom fagiau anrhegion Nadolig iddyn nhw a oedd yn cynnwys bwyd a roddwyd gan y cyhoedd a gwnaethon ni hefyd ddosbarthu bocsys esgidiau wedi'u lapio fel anrhegion Nadolig a oedd yn cynnwys eitemau fel sgarffiau a menig cynnes, llyfrau nodiadau, siocled a sebon etc.
"Roedd yn agoriad llygad go iawn i'r problemau cymdeithasol sy'n effeithio ar bobl lai ffodus a byddwn i'n cynghori pob myfyriwr i geisio treulio diwrnod yn gwneud y gwaith hwn, mae'n fuddiol iawn.
Meddai Amy Rolinson sy'n astudio Nyrsio Plant, "Dwi mor ddiolchgar am y gwahoddiad i helpu ar y diwrnod iechyd pobl ddigartref. Fydda i byth yn anghofio'r profiad hwn a byddwn i'n dwlu helpu eto. Dyma'r lleoliad gwaith mwyaf gwobrwyol dwi wedi cael cyfle i gymryd rhan ynddo.
"Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod rôl Jan yn bodoli tan y diwrnod y cerddais i mewn, mae'r gwaith mae hi'n ei wneud yn anhygoel."
- Dydd Llun 21 Rhagfyr 2015 00.00 GMT
- Dydd Llun 21 Rhagfyr 2015 14.17 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050