Arbenigedd y Brifysgol ar ddangos yn BioCymru 2015

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Unwaith eto, bydd rôl allweddol gan Brifysgol Abertawe yn BioCymru, y gynhadledd, arddangosfa a digwyddiad partneriaeth mwyaf ym maes y gwyddorau bywyd yng Nghymru, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 4 a 5 Mawrth.

BioWales 2015 WelshY Brifysgol yw cefnogwr aur BioCymru am yr ail flwyddyn yn olynol a bydd y digwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn arddangos y gwaith o safon fyd-eang sy'n cael ei wneud gan dimau a chanolfannau amrywiol ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y Ganolfan NanoIechyd; Y Coleg Meddygaeth; Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd; a phrosiect Ehangu Cynaliadwy y Sectorau Arfordirol a Morol Cymhwysol yng Nghymru, neu SEACAMS, a leolir yn y Coleg Gwyddoniaeth. 

Eleni, bydd BioCymru'n canolbwyntio ar gadwyn gyflenwi'r gwyddorau bywyd, gan greu cyfleoedd masnachol ymarferol i ehangu drwy lwybrau newydd i farchnad y sector preifat a'r GIG - maes lle mae gan Brifysgol Abertawe gryfder penodol.

Bydd yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yn traddodi anerchiad agoriadol y gynhadledd ar rôl a pherthnasedd economeg iechyd ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau yn sector y gwyddorau bywyd.

Bydd siaradwyr eraill o'r Brifysgol yn cynnwys yr Athro Iain Whitaker, Athro Clinigol mewn Llosgiadau a Llawdriniaeth Blastig, yn y Coleg Meddygaeth; Stephen Bain, Athro Meddygaeth yn y Coleg Meddygaeth, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Rhwydwaith Ymchwil Diabetes Cymru; a Richard Sinden, cyn fyfyriwr BSc mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe sydd bellach yn Bennaeth y Gwyddorau Bywyd, B&V Group.

Bydd Prifysgol Abertawe yn dangos ei hymchwil a'i phrosiectau Gwyddorau Bywyd yn yr arddangosfa ar stondin 21 lle bydd amrywiaeth o samplau a deunyddiau ymchwil i'w gweld.  Bydd cyfle i ennill nifer o wobrau gwych gan Brifysgol Abertawe, gan gynnwys profi samplau o ddeunyddiau am ddim yn y Ganolfan NanoIechyd ac Aelodaeth Gysylltiol am ddim o'r Coleg Meddygol am flwyddyn yn ei Sefydliad Gwyddor Bywyd.  

Bydd Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol am ddim yng Nghlinig Osteopatheg Prifysgol Abertawe ynghyd ac ymgynghoriad awr am ddim gydag Uwch Economydd Iechyd, naill ai yn Abertawe neu yng Nghaerdydd. 

Bydd Prosiect SEACAMS hefyd yn cynnig archwiliad iechyd busnes am ddim gan Synnwyr Busnes.

A bydd cyflwyniad fideo yn dangos datblygiad Campws newydd y Bae, gwerth £450m, y disgwylir iddo agor ym mis Medi 2015.