Cefnforoedd Asid: dyfodol mwy ansicr ar gyfer bywyd y môr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ein cefnforoedd a'r bywyd ynddynt yn wynebu dyfodol mwy ansicr oherwydd bod asideiddio'r cefnforoedd, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, yn effeithio ar dwf plancton, sef yr organebau sy'n sylfaen cadwyn fwyd gyfan yn y môr, yn ôl ymchwil dan arweiniad tîm o Abertawe.

Roedd y tîm yn cynnwys ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy Prifysgol Abertawe, gyda chydweithwyr o Plymouth, Denmarc ac UDA.  Cyhoeddir eu hymchwil yn Nhrafodion B y Gymdeithas Frenhinol

Mae asideiddio'r cefnforoedd wedi ei ddisgrifio fel “y broblem CO2 arall”.  Yn debyg i'r broblem fwy adnabyddus, newid yn yr hinsawdd, fe’i hachosir gan gynnydd mewn lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer. Mae'r carbon deuocsid hwn yn ymdoddi i'r cefnfor gan ei droi'n fwy asidig.   Mae asideiddio'r cefnforoedd yn digwydd eisoes, ond ychydig a wyddom am ei effeithiau a’i oblygiadau.

Phytoplankton‌Llun:  Phytoplankton - sylfaen cadwyn fwyd gyfan yn y mor

Bu'r tîm ymchwil hefyd yn astudio effeithiau asideiddio ynghyd â phroses o'r enw ewtroffigedd, pan gaiff y môr ei gyfoethogi â maetholion megis gwrtaith sy'n gallu annog algae niweidiol i ymledu.  

Buont yn astudio sut mae tri math o ffytoplancton yn ymateb i wahanol lefelau o asidrwydd yn nŵr y môr: y lefelau presennol (pH 8.2); lefel fwy asidig sy'n debygol yn y dyfodol wrth i'r cefnforoedd gael eu hasideiddio (pH7.6); a lefel fwy alcalinaidd (pH 8.8).

Dyma ganfyddiadau'r ymchwilwyr:

•    Mae'n haws rhagfynegi twf ffytoplancton gyda'r lefel bresennol o asidrwydd yn nŵr y môr
•    Mae'r twf yn fwyaf amrywiol - ac felly'n fwyaf anodd ei ragfynegi - gyda'r lefel uwch o asidrwydd sy'n debygol yn y dyfodol o ganlyniad i asideiddio'r cefnforoedd
•    Mae'n debygol y gwelwn: "effeithiau niweidiol amlach, er enghraifft blwm algaidd sy'n amharu ar yr ecosystem a chynnydd yn nifer y parthau hypocsig ac anocsig [heb ocsigen] a fydd yn effeithio ar bysgodfeydd ac felly ar ddiogelwch bwyd".

Meddai Dr Aditee Mitra, o'r Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe ac un o awduron y papur:

Does dim amheuaeth nad yw'r cefnforoedd yn cael eu hasideiddio oherwydd carbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau drwy weithgarwch dynol.  Mae microalgae (ffytoplancton), ac yn wir, yr holl fywyd yn y cefnforoedd, yn wynebu amodau mwy asidig. Mae hyn yn effeithio ar y gystadleuaeth rhwng rhywogaethau gwahanol ac felly mae'n newid patrymau twf.

Meddai'r Athro Kevin Flynn, Pennaeth y Ganolfan a phrif awdur y papur,

Mae goblygiadau ein canlyniadau ar gyfer olyniaethau plancton newidiol ym moroedd yr ysgafellau'n niferus ac yn bellgyrhaeddol.  Maent yn awgrymu patrymau newid a fydd yn effeithio ar bysgodfeydd ac iechyd dyfroedd arfordirol.

Mae bywyd yn y cefnforoedd yn dibynnu ar dwf microalgae sy'n debyg i blanhigion fel ffytoplancton. Mae ein gwaith yn dangos y bydd newidiadau i ffytoplancton yn effeithio ar sylfeini'r gadwyn fwyd, gan effeithio ar fywyd morol hyd at bysgod a morfilod, ac felly ni hefyd.


Ffeithiau am blancton:

•    Tarddiad y gair plancton yw'r gair Groeg 'planktos' sy'n golygu crwydro neu ddrifftio, gan gyfeirio at y ffaith eu bod yn cael eu cludo gan gerrynt y cefnforoedd yn bennaf.

•    Gellir rhannu plancton yn is-gategorïau - anifeiliaid neu sŵplancton; ffytoplancton sy'n debyg i blanhigion; a'r micsotroffau sy’n cyfuno nodweddion bwydo planhigion ac anifeiliaid.

600 x 300

Llun: Map o NASA yn dangos ardaloedd (glas) lle mae llawer o phytoplankton