Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn lansio Grŵp Ymchwil Gwyddoniaeth Gwella (ISRG)

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe wedi lansio grŵp newydd sydd â'r nod o hyrwyddo cydweithredu ac arloesi i gynhyrchu ymchwil o safon fyd-eang ym maes gwella dyluniad a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Grŵp Ymchwil Gwyddoniaeth Gwella (ISRG) yn dod ag arbenigedd o feysydd amrywiol ynghyd, gan gynnwys polisi gofal iechyd, arweinyddiaeth, rheoli newid, rheoli gweithrediadau, meddwl drwy systemau a rhwydweithiau cyflenwi.

Lansiwyd y Grŵp y mis diwethaf yn Stadiwm Liberty, o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM), AcademiWales, Iechyd Cyhoeddus Cymru, prifysgolion ar draws y DU a'r Sefydliad Iechyd.

Nod y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd â'r Sefydliad Iechyd, oedd canfod:

  • Sut gall Gwyddoniaeth Gwella gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal yn ne-orllewin Cymru
  • Beth sydd gan y Grŵp Ymchwil Gwyddoniaeth Gwella i'w gynnig
  • Sut bydd gwyddoniaeth gwella'n gweithio'n ymarferol
  • Sut gall cydweithredu sicrhau gwerth gorau ar gyfer gwasanaethau a datblygiad academaidd yn ne-orllewin Cymru?

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd cyn i'r gynulleidfa glywed anerchiadau gan y siaradwyr, yn eu plith: Yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM; Sophie Bulmer, Rheolwr Rhaglenni yn y Sefydliad Iechyd; Yr Athro Zoe Radnor, Cadeirydd Rheolaeth Gweithrediadau Gwasanaeth yn Ysgol Busnes ac Economeg Prifysgol Loughborough a Bernadine Rees OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Dr Sharon Williams, sydd wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar fel Cymrawd Gwyddoniaeth Gwella'r Sefydliad Iechyd, ynghyd â Dr Alan Willson.

Dr Williams a Dr Willson fydd y prif ysgogwyr i ddatblygu Gwyddoniaeth Gwella ymhellach yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Meddai Dr Williams, "Gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu heriau mwy nag erioed i ddiwallu anghenion gwasanaeth gydag adnoddau sy'n fwyfwy prin, mae atebion traddodiadol yn methu'n aml. Mae'n rhaid i ni ddatblygu ein hyder a'n harferion wrth ddefnyddio ymagweddau newydd.

"Rydym am gydweithio i ddylunio partneriaeth a fydd yn cryfhau unigolion, timau a sefydliadau i ddefnyddio gwyddoniaeth er mwyn gwella gwasanaethau'n barhaus i bobl de-orllewin Cymru.”

I gael mwy o wybodaeth am y Grŵp Ymchwil Gwyddoniaeth Gwella, e-bostiwch Sharon Williams: sharon.j.williams@abertawe.ac.uk neu Alan Willson, a.r.willson@abertawe.ac.uk.