Cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe ar y rhestr hir am wobr Lleisiau Newydd PEN

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr hir un o wobrau rhyngwladol pwysicaf y byd i awduron newydd.

Mae  cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr hir un o wobrau rhyngwladol pwysicaf y byd i awduron newydd.

Cafodd Rebecca F John a enillodd radd ragoriaeth am ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2012, ei henwebu ar gyfer gwobr PEN New Voices gan Wales PEN Cymru, adain o PEN Rhyngwladol, am ei story Moon Dog, sydd wedi ei gymryd o gyfrol o straeon byrion fydd yn cael ei chyhoeddi gan Parthian eleni.

Mae gwobr Lleisiau Newydd’PEN yn wobr i awduron ifanc rhwng 18-30, nad ydynt eto wedi cyhoeddi eu nofel gyntaf, ac mae’r awduron yn cael eu dewis gan eu canolfan PEN leol. Beirniaid y gystadleuaeth yw Zakariya Amataya, Juan Tomás Ávila Laurel, Edwige-Renée Dro, Drago JanĨar, Yann Martel and Olga Tokarczuk. 

Rhestr Hir Gwobr 2015 PEN/ Lleisiau Newydd:

  • Likkewaan gan Carien Smith (PEN Afrikaans)
  • Under the Jacaranda Tree gan Nozizwe Dube (PEN Flanders)
  • Nichts kurz vor der Rue Saint-Blaise gan Lea Sauer (German PEN)
  • Ailleurs gan Sophie Prévost (PEN Québec)
  • Varshava gan Ana Dontsu (PEN Romania)
  • Moon Dog gan Rebecca F John (Wales PEN Cymru)

Rebecca JohnMae Rebecca o Lanelli eisoes wedi profi llwyddiant rhagorol eleni ar ôl cyrraedd y rhestr fer am wobr EFG Stori Fer y Sunday Times, cystadleuaeth straeon byrion mwyaf cyfoethog y byd.

Dywedodd Dr Fflur Dafydd, sydd yn Uwch-ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac un o gadeiryddion PEN Cymru: “Roedd Rebecca yn ddewis naturiol ar gyfer yr enwebiad eleni. Mae ganddi lais cryf unigryw sy’n gweithio ar lefel rhyngwladol, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hi a chefnogi ei gyrfa. Rydym yn hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o bosibiliadau PEN Cymru fel canolfan rhyngwladol i awduron, ac ry’n hefyd yn annog awduron ifanc eraill sydd â diddordeb mewn cael eu hystyried ar gyfer y wobr y flwyddyn nesaf i gysylltu â ni, boed rheiny’n awduron Cymraeg neu Saesneg eu hiaith.”

Ychwanegodd Rebecca: "Rwyf wrth fy modd o fod yn cynrychioli  PEN Cymru yn y gystadleuaeth deilwng hon, a gobeithio y gallaf gyrraedd y rhestr fer er mwyn chwarae fy rhan fach i wrth dynnu sylw at y gwerthoedd mae PEN yn gweithio’n galed i’w hyrwyddo ac amddiffyn; gwerthoedd sy'n rhan annatod i ni fel awduron ac fel bodau dynol."

Meddai Owen Sheers, sy'n Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn un o gadeiryddion PEN Cymru: "Mae'n wych, yn y flwyddyn gyntaf mae PEN Cymru yn gweithredu fel Canolfan PEN, i weld enw Rebecca yn cynrychioli Cymru ar y rhestr hir ar gystadleuaeth mor rhyngwladol ac uchel ei phroffil. Mae PEN yn ymwneud â lleisiau lleol sy'n cyfrannu at y sgwrs ryngwladol ac mae Rebecca yn enghraifft wych o lais o'r fath, mae ei lle ar y rhestr hir hon, yn dilyn ei llwyddiannau blaenorol, bellach yn ei sefydlu hi fel awdur i wylio ar lwyfan y byd."

Fe fydd rhestr fer o 3 yn cael ei chyhoeddi mewn ychydig wythnosau, a’r wobr yn cael ei chyflwyno i’r awdur buddugol ar Hydref 14eg yng Nghyngres Ryngwladol Pen yn Québec, Canada.