Cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD),

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd yr wythnos hon.

Mae cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), a gynhelir am y chweched tro eleni, yn dod ag ymarferwyr, llunwyr polisïau a gwyddonwyr cymdeithasol ynghyd i drafod themâu fel iechyd; gofal cymdeithasol; lles; addysg; diwylliant a gwerthoedd; yr amgylchedd; marchnadoedd llafur; datganoli; a chymdeithas sifil.

Bydd ymchwilwyr academaidd ac anacademaidd yn rhannu eu hymchwil yn y gynhadledd sydd bellach wedi ennill ei phlwyf fel digwyddiad pwysig yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol.  Ni all unrhyw un sy'n ymwneud â materion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn y Gymru gyfoes fethu’r gynhadledd hon lle bydd dros 120 o bapurau, posteri a sesiynau panel yn cael eu cyflwyno eleni.

Mae'r pynciau o dan sylw eleni’n cynnwys: y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod; dyfodol y Gymraeg yng Nghymru; gofal lliniarol i bobl â dementia; profiadau pobl ifanc yn y farchnad lafur; a’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc.

Bydd tri phrif siaradwr yn y gynhadledd eleni a gynhelir dros gyfnod o dri diwrnod: Ann Keane, cyn-Brif Arolygydd EM Estyn; Karl Wilding, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yng Nghyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO); a’r awdur a’r economegydd, Will Hutton.

Prof Ian Rees Jones WISERDMynegodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones, ei foddhad ar y siaradwyr yng nghynhadledd eleni: "Rydym wedi tyfu’n raddol dros y blynyddoedd, a’r gynhadledd eleni, ein chweched hyd yma, yw’r gyntaf i gael ei chynnal dros dri diwrnod. Mae’n wych gweld dros 120 o bapurau, posteri a sesiynau panel ar y rhaglen, ac edrychaf ymlaen at glywed gan ein prif siaradwyr a chymryd rhan mewn amrywiaeth gyffrous o drafodaethau.

“Mae cynadleddau WISERD yn gyfle i gydweithwyr sy’n gweithio ym meysydd economaidd, polisi, cyhoeddus a’r trydydd sector i ddod ynghyd i drafod yr ymchwil ddiweddaraf. Maent hefyd yn gyfle i ni i ddysgu am yr ystod eang o ymchwil PhD cyffrous a gynhelir ledled Cymru."

 


Cafodd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ei sefydlu yn 2008. Ei nod oedd dod ag arbenigedd ym meysydd dulliau ymchwil mesurol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe ynghyd ac adeiladu arno.

Mae WISERD yn cynnal ymchwil a gweithgareddau cynyddu adnoddau sy’n hwyluso datblygiad isadeiledd ymchwil ar draws y gwyddorau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.  Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae canolfan WISERD.