Dr Jasmine Donahaye yn cyhoeddi ei chyfrol ddiweddaraf, Losing Israel

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr Jasmine Donahaye, Uwch-ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, yn lansio'i chyfrol ddiweddaraf, Losing Israel, yng Nghanolfan Glyn Jones yng Nghaerdydd ar nos Fercher, 8 Gorffennaf.

  • Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Gorffennaf
  • Amser: 7pm
  • Lleoliad: Canolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, CF10 5AL
  • Mynediad am ddim, a chroeso cynnes i bawb. 

Losing IsraelGan weu gwleidyddiaeth, gwylio adar, atgofion a hanes cymdeithasol â'i gilydd, mae Losing Israel (Seren) yn waith dynol a syfrdanol am wrthdaro dadleuol arferiadol.

Yn 2007, wrth ymchwilio hanes ei theulu, daeth Dr Donahaye ar draws tystiolaeth o gydgynllwynio ei mam-gu a'i thad-cu yn symudiad Palestiniaid yn y 1930au a'r 1940au. Aeth ati i ddatgelu darn o hanes cudd Israel, a rhan o stori ei theulu a oedd yn anhysbys iddi. Gwnaeth yr hyn a ddarganfu herio popeth yr oedd yn credu ei bod yn ei wybod am y wlad a'i theulu, a thrawsffurfiodd ei dealltwriaeth o'r lle, ac o'i hun.

Mae Losing Israel yn gyfrif cynhyrfus a gonest sy'n pontio ysgrifennu teithio, ysgrifennu natur ac atgofion. Drwy sefyllfa bersonol yr awdur, archwilia Losing Israel gysylltiadau pwerus pobl i leoedd ac i storïau cenedlaethol dadleuol. Gan symud rhwng Cymru ac Israel, ceisia Dr Donahaye ddygymod â'i theimladau gwrthdrawiadol sydd wedi'u gwreiddio mewn hanes teulu anodd a chariad at adar Israel, a gofynna gwestiynau am famwlad a pherthyn, ac am bŵer storïau i lunio tirwedd. A hithau'n wyliwr adar hyd oes, defnyddia Dr Donahaye adar yn Israel, Palestina a'i chartref yng Nghymru i ddarparu trosiad cyswllt annisgwyl a diddorol ar draws themâu amrywiol y llyfr.

Mae ffocws Dr Donahaye ar y mudiad cibwts a'i harchwiliad o ddigwyddiadau yn ystod y Mandad Prydeinig ac yn yr Israel newydd yn ei rhoi ar wahân i'r nifer o lyfrau am y sefyllfa yn Israel a Phalestina. Mae Losing Israel yn llyfr â sawl lefel - perthnasau teulu; natur cenedlaetholdeb a pherthyn; dadleoli diwylliannol; stori'r Iddewon Alltud a'r costau; y berthynas rhwng storïau teulu a hanes ar gofnod; a dygymod â chyfrifon anghyson o'r gorffennol.