Dyfrgwn: Beth sy'n gwneud y creaduriaid afon hyn mor rhyfeddol - Ecolegydd arbenigol o Abertawe yn cael gwahoddiad i Ŵyl Wyddoniaeth Cheltenham

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae torheulo, chwarae a dal pysgod yn swnio fel bywyd hawdd i ddyfrgwn, ond mae llawer mwy na hynny i drigolion annwyl dyfrffyrdd Prydain.

OttersMae'r ecolegydd a'r arbenigwr ar ddyfrgwn, Dr Dan Forman, o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe, wedi derbyn gwahoddiad i siarad am yr hyn sy'n gwneud y creaduriaid afon hyn mor rhyfeddol fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Cheltenham The Times eleni, fis Mehefin.

Cynhelir y digwyddiad Otters (S091) o 6:30pm tan 7:30pm ar nos Wener, 5 Mehefin yn Winton Crucible yn Cheltenham‌.

Bu bron a bod i'r 1950au a'r 1960au arwyddo diwedd dyfrgwn yn y DU ar ôl gostyngiadau sylweddol ar led ymhlith poblogaethau, ond mewn blynyddoedd diweddar maent wedi bod yn nofio'n ôl i Brydain.

Meddai Dr Forman, Uwch-ddarlithydd Biowyddorau ac arweinydd y Prosiect Dyfrgwn Arfordirol o fewn Tîm Ymchwil Ecoleg Abertawe (SERT), "Y dyfrgi yw un o anifeiliaid mwyaf eiconig Prydain, yn enwog am ei feistrolaeth yn y dŵr a'i allu pysgota. Mae'r rhywogaeth wedi profi adferiad hynod mewn blynyddoedd diweddar, a gellir ei weld mewn nifer o afonydd a llynnoedd ym Mhrydain bellach.

"Mae'r dyfrgi yn famal hynod addasadwy sy'n gallu defnyddio amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys lleoliadau arfordirol. Prin iawn yw ein gwybodaeth am bwysigrwydd a maint gweithgarwch arfordirol dyfrgwn ym Mhrydain ar hyn o bryd.

"Ond drwy'r Prosiect Dyfrgwn Arfordirol rydym am arolygu a chasglu gwybodaeth i ddechrau deall sut leoedd yw ardaloedd arfordirol pwysig megis traethau tywodlyd, twyni, morfeydd heli, aberoedd a thraethlinau creigiog i ddyfrgwn."

Yn siarad am yr hyn y bydd yn canolbwyntio arno ar gyfer cynulleidfa'r digwyddiad Otters yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, meddai Dr Forman, "Bydd fy narlith yn rhoi golwg newydd ar fywyd cudd yr anifeiliaid rhyfeddol a hynod gymhleth hyn, yn ogystal ag esbonio sut a pam rydym yn astudio dyfrgwn."

Unwaith eto mae'r Brifysgol ymhlith prif gefnogwyr gŵyl wyddoniaeth fwyaf ac uchaf ei pharch y DU, a gynhelir o ddydd Mawrth, 2 Mehefin tan ddydd Sul, 7 Mehefin.

Am fanylion llawn rhaglen yr Ŵyl a gwybodaeth am docynnau, ewch i www.cheltenhamfestivals.com/science.