Ffilm animeiddiedig gan ddisgyblion Abertawe wedi’i enwebu am Wobr Ryngwladol Zoom

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffilm animeiddiedig a grëwyd gan ddisgyblion o dair ysgol yn Abertawe sy’n olrhain hanes y bardd Daniel James, brodor o ardal Treboeth yn Abertawe a gyfansoddodd Calon Lân, wedi cyrraedd rhestr fer categori Animeiddiad Gorau yng Ngwobrau Rhyngwladol Zoom.

Mae Gwobrau Rhyngwladol Zoom yn rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol Ieuenctid Zoom, digwyddiad ffilm fwyaf Cymru i blant a phobl ifanc.

Yn dilyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gweithiodd cymdeithas Hanes Treboeth gyda disgyblion o dair ysgol yn Abertawe, a chawsant eu cynorthwyo gan Brosiect Cymunedau Cysylltiedig Prifysgol Abertawe, ynghyd ag Academi Hywel Teifi i greu’r ffilm.

Yr ysgolion bu’n rhan o Brosiect Daniel James oedd:

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
  • Ysgol Gwyrosydd

Mae Prosiect Daniel James yn un o nifer o brosiectau ymchwil sy'n ffurfio rhan o Brosiect Cymunedau Cysylltiedig ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n ymchwilio a dathlu cymunedau a phobl o Gwm Tawe a thu hwnt.

Dan arweiniad yr Athro Huw Bowen a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH)ym Mhrifysgol Abertawe, ymchwiliodd y myfyrwyr Bev Rogers, Teresa Hillier a Cathrin Haines Davies i fywyd a gwaith Daniel James, a elwir hefyd wrth ei enw barddol, Gwyrosydd. Cafodd eu hymchwil ei rhannu gyda'r disgyblion, ac yna fe aeth y plant ati i greu’r ffilm dan arweiniad y cwmni animeiddio, Turnip Starfish.

Cafodd y ffilm orffenedig ei ryddhau ar DVD yn y Gymraeg a’r Saesneg yn 2013. Darparwyd pecynnau gwybodaeth a grëwyd gan y myfyrwyr bu’n ymchwilio i fywyd Gwyrosydd i ysgolion, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol. Roedd y pecynnau’n cynnwys enghreifftiau o waith y bardd a thaflenni gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer yr ystafell ddosbarth. 

Meddai Dewi Ball, athro yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw: “Mae’r plant wrth eu boddau bod y ffilm wedi cael ei henwebu am wobr, a bod y darn yma o’n hanes lleol yn cael ei gydnabod ar lwyfan rhyngwladol. Roedd gweithio ar y prosiect yn gyfle gwych i’r disgyblion ddysgu mwy am eu milltir sgwâr, a chawsom y cyfle i ddatblygu’n perthynas gyda rhai o’r trigolion lleol. Rydym oll yn croesi’n bysedd y byddwn yn cipio’r wobr nos Wener!”.

Ychwanegodd Dr Elain Price, Darlithydd Ffilm ac Animeiddio yn Academi Hywel Teifi: "Rydym yn falch iawn bod y ffilm wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr hon. Gweithiodd y plant yn galed gyda'r ymchwilwyr a'r gymdeithas hanes lleol i ddelweddu bywyd a gwaith Daniel James, a thrwy gyfrwng llwyfan cyfryngol hynod greadigol a rhyfeddol animeiddio, roedd modd i'r disgyblion gael dirnadaeth lawn o'i gyfraniad i hanes a diwylliant Cymreig. Mae'r animeiddiad wedi cael derbyniad ardderchog, ac yr ydym nawr yn gobeithio y caiff lwyddiant yng Ngwobrau Zoom!”.

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Rhyngwladol Zoom mewn seremoni yn Theatr Sony yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ar 27 Mawrth. Y seremoni yw penllanw wythnos o ddathliadau sy’n rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol Ieuenctid Zoom, gyda dangosiadau a gweithdai yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled cymoedd de Cymru rhwng 23-27 Mawrth.

Gwyliwch ddarn o'r ffilm isod: