Gwobr Clywedeg i Ffion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ffion Kelly-Rees, sy'n fyfyriwr Clywedeg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Lisa Bayliss Academi Clywedeg Prydain (BAA) eleni.

Mae'r wobr yn cydnabod y myfyriwr clywedeg a berfformiodd orau yn ystod ei leoliad BSc.

Audiology award success for Swansea student FfionDerbyniodd Ffion, myfyriwr 20 oed o Ddulyn sydd yn ei thrydedd flwyddyn yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, ei gwobr gydag enillwyr eraill Gwobrau Academi Clywedeg Prydain eleni (fel rhan o'r deuddegfed gynhadledd flynyddol), a gynhaliwyd yn Harrogate.

Roedd Lisa Bayliss yn fyfyriwr clywedeg 20 oed yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl, ond ym 1992 bu farw ar ei ffordd adref o'r gwaith.

Disgrifiwyd Lisa fel person caredig a gofalgar a oedd yn gweithio'n dda gyda phawb. Pan awgrymwyd enwi gwobr er cof amdani, nid oedd yn syndod y dyfarnwyd y wobr i rywun sy'n meddu ar yr un rhinweddau â Lisa yn helaeth.

Meddai Ffion, “Roedd yn fraint cael fy enwebu, ond ces i fy synnu, ar yr ochr orau, pan glywais fy mod wedi ennill. Pan rydych yn dwlu ar eich gwaith, mae gwneud y gorau y gallwch ar bob adeg yn dod yn naturiol, ac rwy'n dwlu ar glywedeg!

“Rwy'n gwneud diwrnod arferol o waith pan rwyf ar leoliad gwaith, ond mae fy mentoriaid bob amser yn dweud wrthyf fy mod yn gwneud mwy na'r disgwyl. Rwy'n mynd i mewn bob dydd yn barod i ddysgu ac i gymryd rhan mewn pa dasgau bynnag y mae angen eu cyflawni.

“Rwy'n dwlu ar fod yn fyfyriwr yn Abertawe! Dewisais clywedeg am ei fod yn arbenigedd nas gwyddid llawer amdano, ac roedd y swydd yn apelio ataf yn fawr. Mae'n hawdd siarad â'r darlithwyr yma am unrhyw broblemau gyda'r gwaith cwrs, boed ar leoliad gwaith neu mewn darlithoedd, ac maent yn ateb yn gyflym bob amser. Heb y staff cefnogol yma yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, ni fyddwn wedi mwynhau'r cwrs cymaint.

Rwy'n dechrau lleoliad gwaith chwe mis ym mis Ionawr, a daw'r cwrs i ben ym mis Mehefin. Wedi hynny hoffwn gael swydd yn y GIG yn arbenigo mewn pediatreg. Un peth rwyf wedi'i ddysgu yn ystod fy amser yn Abertawe yw bod byd clywedeg yn enfawr; mae llawer o gyfleoedd ar gael.

“Mwynheais y profiad o fynd i gynhadledd BAA am y tro cyntaf, a ches i gyfle i fynd i ddarlithoedd diddorol ar amrywiaeth o bynciau, o fewnblaniadau yn y cochlea i adsefydlu'r glust. Dysgais lawer.”

Enwebwyd Ffion gan Barry Bardsley, Rheolwr y Rhaglen BSc Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg).

Meddai, “Yn ystod ei lleoliad gwaith ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf, cafodd Ffion gryn ganmoliaeth gan Jon Arthur, Pennaeth y Gwasanaeth, am ei gwaith gyda'i chleifion. Helpodd yr Adran ag arolwg bodlonrwydd cleifion, ac rwy'n gwybod bod y staff yn ddiolchgar iawn am ei mewnbwn.

“Yn ogystal, pan oedd ar wyliau o'i hastudiaethau, trefnodd leoliad gwirfoddol ychwanegol pan oedd gartref yn Nulyn. Ysgrifennodd Pennaeth y Gwasanaeth lythyr yn canmol sgiliau clinigol Ffion.

“Mae'n amlwg bod Ffion yn haeddu ei chydnabyddiaeth, ac rwy'n ei llongyfarch yn fawr ar ei llwyddiant.”

Llun: Ffion Kelly-Rees (ar y dde) yn derbyn ei gwobr gan y BAA.