Hanesydd o fri yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe mewn rôl cynghorydd strategol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Hywel Francis, a oedd tan yn ddiweddar yn Aelod Seneddol dros Aberafan, yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe lle yr oedd yn Athro Addysg Barhaus cyn iddo gael ei ethol am y tro cyntaf ym 2001.

librarywayne

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor yn y Brifysgol ac sydd hefyd yn gyfrifol am lansiad y campws newydd, Campws y Bae:

“Rydym wrth ein boddau bod yr hanesydd nodedig yr Athro Hywel Francis wedi cytuno i fod yn gynghorydd strategol ar gyfer y Brifysgol ar Archifau, Polisi Rhanbarthol ac Ehangu Mynediad.  Mae ganddo brofiad academaidd a Seneddol heb ei ail yn y meysydd pwysig hyn. 

“Yn ystod ei amser yn y Brifysgol, sefydlodd Lyfrgell Glowyr De Cymru. Yr Athro Francis hefyd oedd y prif ysgogydd wrth sefydlu’r Maes Glo ac Archifau Richard Burton ac roedd hefyd yn gyfrifol am greu’r cynllun gradd rhan-amser a dyfodd i fod yn Brifysgol Gymunedol y Cymoedd.”

Yn y Senedd, cadeiriodd yr Athro Francis y grŵp pwysig, archifau a hanes: bydd ei brofiadau yn y maes hwnnw o gymorth mawr i’r Brifysgol gyda’n huchelgais i gryfhau ein casgliadau Archifol.

Dr Hywel Francis

Meddai’r Athro Francis:

“Mae’n bleser gennyf ddychwelyd i’m hen Brifysgol ac edrychaf ymlaen at helpu i adeiladu ei Harchifau, cryfhau ei chysylltiadau gyda chymunedau lleol a gwella’i henw da sy’n dod yn fwyfwy adnabyddus yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel prifysgol sy’n darparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, ysgolheictod nodedig ac sy’n creu swyddi medrus yn y rhanbarth.”

 

 

Llun 1: Wayne Thomas, NUM gyda Siân Williams (Llyfrgellydd Llyfrgell Glowyr De Cymru) a Hywel Francis yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ar gyfer lansiad llyfr Siân a Hywel “Do Miners Read Dickens?

Llun 2: Dr Hywel Francis mewn gwisg academaidd.

 ‌