Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud "Diolch yn Fawr" i fyfyriwr nyrsio ymroddedig ym Mhrifysgol Abertawe a chyn Gydlynydd Atal a Rheoli Heintiadau am ei gwaith caled a'i hymroddiad eithriadol i welliannau ym maes rheoli heintiadau.
Canmolwyd Shan Moses, myfyriwr Nyrsio Oedolion yn ei hail flwyddyn yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol ar Gampws Parc Dewi Sant, am "ragori ar ddisgwyliadau" yn nigwyddiad Diolch yn Fawr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a gynhaliwyd yn Ysbyty Glangwili.
Meddai Shan, a fu'n gweithio yn Adran Atal a Rheoli Heintiadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, "Cafodd y gwaith caled a'r ymrwymiad i ofal cleifion eu cydnabod pan gynyddodd cyfraddau cydymffurfio â rheolau hylendid dwylo o 45% i 90-95% yn ystod fy saith mlynedd fel Cydlynydd Atal a Rheoli Heintiadau yn y Bwrdd Iechyd. Roedd yn gyflawniad gwych.
"Roedd yn sioc, yn anrhydedd, yn fraint ac yn ysbrydoliaeth cael fy nghydnabod am fy ngwaith caled a'm cyfraniad yn y rôl.”
Newidiodd Shan ei gyrfa, gan ddechrau ei hastudiaethau nyrsio yn 2014. Ychwanegodd: "Teimlais ei bod yn bryd gadael y rôl ac astudio i fod yn nyrs. Roeddwn i'n gallu gweld fy hun yn gweithio fel nyrs yn y dyfodol ac yn parhau â'r gwaith da ym maes gofal cleifion a hylendid dwylo gan sicrhau bod diogelwch cleifion wrth wraidd gofal iechyd.
"Byddaf yn parhau i hyrwyddo safon uchel o ofal cleifion drwy gydol fy ngyrfa nyrsio yn y dyfodol. Hylendid dwylo yw’r ffordd bwysicaf o atal heintiadau rhag cael eu lledu yn yr ysbyty."
Meddai Simone Bedford, Uwch Ddarlithydd Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe, "Mae gan Shan feddwl chwilgar ac mae'n ymroddedig i'w hastudiaethau. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn rheoli heintiadau a hoffai ddatblygu hyn ymhellach ar ôl iddi gymhwyso fel nyrs; mae'r wobr hon yn cydnabod ei hymroddiad a'i dyfalbarhad."
- Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2015 00.00 GMT
- Dydd Llun 30 Tachwedd 2015 11.27 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049