'I ba le yr awn? Cyfeiriadau newydd ym maes cynllunio ieithyddol' - Darlith Goffa Henry Lewis

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae angen sicrhau nad yw Cymru yn aberthu hyrwyddo’r Gymraeg ar allor rheoleiddio’r iaith er mwyn sicrhau ei dyfodol. Dyna fydd dadl yr arbenigwr ar gynllunio ieithyddol yr Athro Colin Williams, wrth gyflwyno Darlith Goffa Henry Lewis yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ar Nos Fawrth, Mai 12fed, am 6.30yh.

Teitl y ddarlith yw  'I ba le yr awn? Cyfeiriadau newydd ym maes cynllunio ieithyddol'  ac  fe fydd yn asesu ac yn trafod y berthynas rhwng hyrwyddo a rheoleiddio iaith, cyfeiriadau ymchwil newydd maes Cynllunio Ieithyddol a gwerthuso potensial Cymdeithas Ryngwladol Comisiynwyr Iaith.

Dywed yr Athro Williams, sy’n Athro Ymchwil yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd ac yn arbenigwr rhyngwladol ym maes cynllunio ieithyddol, bod angen i Gymru fod yn ymwybodol o’r peryglon sydd ynghlwm wrth orbwyso rheoleiddio a’r llysoedd barn yn hytrach na chymunedau a gwleidyddion yn llunio dyfodol yr iaith. Yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2000 a 2010, mae’n gweld bod yr hyblygrwydd oedd gan staff y Bwrdd i fentro a threialu syniadau bellach wedi ei golli rhywfaint yn sgil sefydlu Swyddfa’r Comisiynydd Iaith.

“Er ei wendidau,” meddai  “roedd Bwrdd yr Iaith yn gweithredu fel rhyw fath o One Stop Shop i’r rhai oedd angen cymorth a chefnogaeth ymarferol.  Bellach mae’r creadigrwydd wedi ei golli o’r system.”        

Y ddraig goch/ Welsh dragon Bydd yr Athro Williams hefyd yn trafod y ffaith bod angen i newid agwedd tuag at y rhai sy’n dysgu’r Gymraeg gan ddefnyddio’r cysyniad o siaradwyr Cymraeg newydd, er mwyn cymhathu dysgwyr a mewnfudwyr yn fwy llwyddiannus.

“Mae’r cysyniad o siaradwyr newydd yn fwy niwtral, gan osgoi’r meddylfryd sydd gennym o siaradwyr iaith gyntaf, ail iaith neu ddysgwyr. Mae gan wledydd eraill fel Catalonia wersi i ni, â’i rhaglenni cymhathu ar gyfer 1.4 miliwn o siaradwyr newydd dros y 10 mlynedd diwetha. Byddaf yn gofyn y cwestiwn a yw’r cysyniad yn un ymarferol i ni yma yng Nghymru? “

Bydd y ddarlith hefyd yn archwilio rôl corff newydd yn y maes cynllunio ieithyddol, sef Cymdeithas Ryngwladol Comisiynwyr Iaith. Mae’r Athro Williams yn gweld y Gymdeithas fel un all awdurdodi yr hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn y maes, gan gynnig cyfleoedd  wrth rannu arfer da.

“Mae’n ddatblygiad cynhyrfus ac addawol gall fod o fudd mawr i ni yng Nghymru,” meddai. “Ond mae yna broblemau hefyd. Mae’n bosib y bydd rhai gwledydd fel Sri Lanka a’r India sydd wedi profi tyndra ieithyddol ethnig treisgar yn pwyso ar y gymdeithas i ymyrryd yn wleidyddol – rhwybeth nad oes hawl gan ein Comisiynydd ni i’w wneud wrth gwrs.”  

Wedi bod yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Penn State, Prifysgol Toronto, Western Ontario ac Ottawa ac yn gymrawd ym Mhrifysgol Rhydychen,  mae’r Athro Williams yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, ac fe fe fydd yn traddodi Darlith Goffa Henry Lewis yn y ddarlithfa ble y dechreuodd ei yrfa academaidd ym 1969. 

“Yn Narlithfa Wallace y ces i fy narlith gyntaf erioed fel myfyriwr israddedig ac mae’n braf cael fy ngwahodd i draddodi Darlith Goffa Henry Lewis yn y man ble dechreuodd y cyfan!”

Mae’r ddarlith yn coffau Henry Lewis, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn 1921. Roedd yn adnabyddus fel ieithydd ac am ei gyfraniad at hanes yr iaith Gymraeg a’i gyhoeddiad pwysig Datblygiad yr Iaith Gymraeg. Trefnir y Ddarlith gan Academi Hywel Teifi a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: “Mae Darlith Goffa Henry Lewis yn adlewyrchu traddodiad hir Prifysgol Abertawe fel canolfan ragoriaeth ymchwil i’r iaith Gymraeg, sy’n parhau heddiw yn Academi Hywel Teifi, a’r mawrion a fu’n rhan o fywyd academaidd ein Prifysgol. Rydym ni’n falch iawn o roi llwyfan i drafodaeth amserol am yr iaith Gymraeg heddiw, ac i ddod â gwahanol ddisgyblaethau at ei gilydd, i daflu goleuni newydd ar y maes.”

Darlith Goffa Henry Lewis, Dydd Mawrth 12 Mai , 6.30yh Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe. Derbyniad o 6yh ymlaen. 

Mynediad yn rhad ac am ddim, a chroeso i bawb. Darlith Gymraeg gydag offer cyfieithu ar y pryd ar gael. Trefnir gan Academi Hywel Teifi a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe.