Made to Measure? The making of Welsh law on children’s rights

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r digwyddiad hwn yn ail-greu (gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru) cyflwyniad a roddwyd ym Mhrifysgol Houston a Phrifysgol Texas, Austin, yn ystod Arddangosiad Ymchwil Prifysgol Abertawe yn Texas ym mis Hydref 2014.

  • Dyddiad: Dydd Llun, 6 Gorffennaf
  • Amser: 6pm
  • Lleoliad: Darlithfa Grove, Adeilad Grove, Campws Parc Singleton, SA2 8PP

Mae'r digwyddiad hwn yn adrodd hanes llunio Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, y rhan hollbwysig a gyflawnwyd gan Brifysgol Abertawe a'i phartneriaid wrth ddylanwadu ar y gyfraith honno a'i llunio, effaith y gyfraith ar ddiwygio polisi a'r gyfraith yng Nghymru yn sgil hynny a gwaith parhaus yr Arsyllfa i helpu i wireddu'r addewidion sydd bellach wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru ym maes hawliau dynol plant a phobl ifanc.

Bydd y cyflwyniad o ddiddordeb i gydweithwyr ar draws disgyblaethau, gan roi cipolwg ar sut y gall ymchwil ddylanwadu ar bolisi a chreu newid, ac ar realiti gwleidyddol proses ddeddfwriaethol Cymru, ynghyd â'r ffordd unigryw y mae Cymru wedi ymgorffori cyfraith ryngwladol ar hawliau plant yn sgil datganoli.

Cyflwynir gan:

Syr Roderick Evans, Dirprwy Ganghellor, Prifysgol Abertawe.

Siaradwyr:

  • Y Gwir Anrh. Rhodri Morgan, Canghellor Prifysgol Abertawe a chyn Brif Weinidog Cymru.
  • Yr Athro Michael Sullivan, Is-lywydd (Partneriaethau Strategol), Prifysgol Abertawe.
  • Jane Williams, Cyd Gyfarwyddwr Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc.
  • Helen Mary Jones, cyn Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Julie Morgan AC.

Am unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Helen Sumner-Obasi: h.a.e.sumner@abertawe.ac.uk