Myfyrwraig nyrsio Hannah yn anelu at lwyddiant

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig nyrsio'r ail flwyddyn yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe yn anelu at lwyddiant mewn cystadleuaeth gwn aer a gynhelir yn yr Iseldiroedd.

Mae Hannah Scott o Abergwaun, sy'n astudio ar Gampws Parc Dewi Sant y Coleg yng Nghaerfyrddin, wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru yng ngystadleuaeth flynyddol InterShoot a gynhelir yn yr Hag rhwng 5 a 7 Chwefror.

Hannah Scott

Meddai Hannah: "Dechreuais i saethu pan oeddwn tua 10 oed, wrth i mi ddechrau gwneud camp o'r enw tetrathlon sy'n cynnwys saethu, nofio, rhedeg a marchogaeth (fersiwn fach o'r pentathlon modern). Drwy gymryd rhan yn y gamp hon, gofynnwyd i mi a oeddwn i am wneud saethu ar lefel uwch. Roeddwn i'n ymarfer ac yn cystadlu ar gyfer carfannau iau Cymru a Phrydain tan i mi gyrraedd 16 oed pan ges i anaf i'r ysgwydd ac roedd rhaid i mi roi'r gorau iddi am gyfnod i gael llawdriniaeth a thriniaeth ffisiotherapi, gan chwalu fy mreuddwyd o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad!

"Dim ond 12 mis yn ôl dechreuais gymryd rhan yn y gamp eto pan ofynnwyd i mi ddechrau hyfforddi tîm tetrathlon Sir Benfro. Gwelais i fy hen hyfforddwr yn un o'r cystadlaethau ac yn sgîl cael gwahoddiad ganddo i fynd i ddiwrnod hyfforddi, dechreuodd popeth eto!

"InterShoot yw enw'r gystadleuaeth y byddaf yn mynd iddi yn yr Iseldiroedd. Byddwn yn cystadlu yn erbyn timau o bob cwr o'r byd.  Rwy'n teimlo'n nerfus am gystadlu dros fy ngwlad ond mae'n fantais mod i wedi cynrychioli Cymru o'r blaen. Rwy'n siŵr y bydd fy nghalon yn dechrau curo'n gyflym ar ddechrau pob gornest. Bydd rhaid i mi sicrhau mod i'n canolbwyntio a rheoli fy nerfau fel na fydd fy llaw yn crynu!"

Meddai Heulwen Morgan-Samuel, Uwch-ddarlithydd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, “Mae Hannah yn enghraifft dda o ba mor amryddawn yw ein nyrsys. Rydym ni fel coleg yn falch o allu cefnogi Hannah i barhau i gystadlu'n llwyddiannus ac astudio ar yr un pryd. Mae Hannah'n fyfyrwraig boblogaidd gyda'i chyfoedion a staff. Mae bob amser yn gwneud ei gorau yn ei hastudiaethau a'i gweithgareddau hamdden. Rydym yn dymuno'n dda iddi yn Holland ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed llawer mwy am lwyddiant Hannah yn y blynyddoedd i ddod."