Nano4Life: Sylw ar nanomeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y seithfed gynhadledd Nano4life ddydd Iau, 18 Mehefin, ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i threfnu ar y cyd gan y Ganolfan NanoIechyd a'r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.

Mae'r digwyddiad, a gefnogir gan Gymdeithas Nanomeddygaeth Prydain a MediWales, yn rhan o Ŵyl Arloesi Cymru a bydd yn fforwm i drafod y datblygiadau diweddaraf sy'n cael eu cynnig gan nanotechnoleg a thechnolegau galluogi eraill yn y diwydiannau iechyd a gwyddorau bywyd.

Prof Steve ConlanMeddai'r Athro Steve Conlan, cyfarwyddwr sefydlu'r Ganolfan NanoIechyd, "Amcan y digwyddiad yw nodi'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer llwyddiant masnachol a chlinigol sydd yn yr arfaeth ym maes Ymchwil a Datblygu.

"Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd ardderchog i rwydweithio, gyda chyflwyniadau gan gynrychiolwyr o faes diwydiant, clinigwyr ac academyddion blaenllaw sy'n gweithio ym maes nanotechnoleg a thechnolegau iechyd a gwyddorau bywyd sy'n dod i'r amlwg, yn ogystal â sefydliadau sy'n cefnogi cydweithredu ac arloesi."

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddyfeisiau a diagnosteg meddygol, meddygaeth adfywio a nanotherapiwteg. Bydd yn apelio at academyddion, clinigwyr, entrepreneuriaid a chwmnïau sydd â diddordeb mewn manteisio ar nanotechnoleg - a thechnolegau galluogi eraill - i ddatrys heriau iechyd, gofal a gwyddor bywyd.

Ychwanegodd Dr Gabriela Juarez Martinez, Rheolwr Trosglwyddo Gwybodaeth yn y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth, "Bydd y gynhadledd o fudd i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn dyfeisiau meddygol, diagnosteg, delweddu, synwyryddion ar gyfer iechyd, defnyddio nanoronynnau i gyflwyno cyffuriau mewn modd a dargedir, nanofformiwleiddio, a bioddeunyddiau/sgaffaldau ar gyfer meddygaeth adfywio a darganfod cyffuriau."

Bydd y cyflwyniadau'n cynnwys rhai ar heriau a chyfleoedd cydweithredu gan glinigwyr a chynrychiolwyr o ddiwydiant, cyflwyniadau am dechnoleg, cyfleoedd ariannu cenedlaethol a rhyngwladol a thrafodaeth panel ynghylch cefnogaeth ar gyfer arloesi a strategaethau er mwyn cynyddu a chryfhau Cymuned Nanomeddygaeth y DU.

Bydd cynadleddwyr yn cael cyfle hefyd i fynd i dderbyniad cyn y gynhadledd a gynhelir ddydd Mercher, 17 Mehefin. Cânt gyfle i gymryd rhan mewn taith o'r Ganolfan NanoIechyd a gweld ardal arddangos posteri ymchwil yn un o adeiladau ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Adeilad Gwyddor Bywyd 2.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac i gofrestru, ewch i: http://bit.ly/1PkVRms.