Nid yw hi byth yn rhy hwyr i addysgu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn dilyn cyfnod llwyddiannus fel rheolwr cwmni a chyfarwyddwr cwmni, penderfynodd Jonathan Evans 39 oed newid ei lwybr gyrfaol. Gan ei fod mor frwd dros addysgu penderfynodd geisio am gymhwyster CELTA Caergrawnt sef y cymhwyster hyfforddiant addysgu cychwynnol mwyaf blaengar o’i fath. Mae CELTA yn agor drysau i addysgu’r iaith Saesneg ar draws y byd, gan roi cymhwyster a dderbynnir yn fyd-eang.

Mae gan Jonathan radd BA (Anrhydedd) mewn Ffrangeg ac Eidaleg o Brifysgol Caerfaddon a gradd MSc mewn Rheolaeth – eto, o Brifysgol Caerfaddon. I ddechrau, gweithiodd Jonathan yn Llysgenhadaeth Prydain yn Rhufain wedyn ymunodd â’r diwydiant ceir yn Ne Cymru. Hyfforddodd fel cyfrifydd y Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig. Wedi hynny, symudodd i’r rôl Rheolwr Cyfarwyddwr ar gyfer darpariaeth freiniol Renault, Yn hanu o Faesteg yn wreiddiol, erbyn hyn mae Jonathan yn byw yn y Bont-faen gyda’i deulu.

Er bod angen iddo deithio o’r Bont-faen i Abertawe, dewisodd Jonathan ymrestru ar y cyrsiau CELTA Caergrawnt a gynhelir gan y Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Jonathan Evans

Meddai Jonathan: “Ymgeisiais am le ar y cwrs CELTA rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd, yn dilyn llawer o waith ymchwil, teimlais y byddai natur gyflawn y cwrs a’i gydnabyddiaeth o fewn y proffesiwn addysgu’r iaith Saesneg yn caniatáu imi gyflawni fy uchelgais i ddod yn athro Saesneg i Oedolion. Cefais fy ysbrydoli gan y dull ymarferol tuag at addysgu trwy ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, llwyddiant hanesyddol y cwrs a’r ystod o fodiwlau sydd ar gael.”

Pasiodd Jonathan Evans y cwrs CELTA gan dderbyn gradd LLWYDDO A, y radd uchaf posib ar gyfer y cymhwyster hwn, ac sydd yn cael ei dyfarnu i lai na 5% o ymgeiswyr yn unig yn y DU.

Erbyn hyn mae Jonathan wedi llwyddo i dderbyn lle hyfforddi ar y Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth “Teach First”. Mae’r rhaglen yn cyfuno gweithio, cymhwyso a hyfforddi fel athro â hyfforddiant datblygu, hyfforddi a mentora arweinyddiaeth, ac ystod o gyfleoedd rhwydweithio a chyfleoedd am interniaethau. Ar hyn o bryd, mae “Teach First” yn yr ail safle ar gyfer 100 Uchaf o Gyflogwyr Graddedigion 2014 yn ôl papur newydd The Times

Meddai Jonathan: “Newidiais fy llwybr gyrfaol yn llwyddiannus trwy fy mhrofiad cadarnhaol â’r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg a chwrs CELTA a byddwn yn annog pobl eraill sydd am gael mynediad i’r maes gwych addysgu i ymrestru ar y cwrs hwn. 

“Ni fyddwn wedi bod yn llwyddiannus heb holl waith caled y tiwtoriaid ym Mhrifysgol Abertawe a oedd yn fy addysgu ar y cwrs CELTA. Roeddent yn gyfrifol am roi’r sgiliau a’r platfform i mi gael mynediad i’r proffesiwn addysgu ac rwy wir yn ddiolchgar am hynny.”