O’r rhyfedd i'r rhyfeddol - bydd y cyfan yn y GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn llwyfannu pabell y GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni, a hynny yng Nghaerffili a’r Cylch rhwng 25 – 30 Mai 2015.

Mae'r GwyddonLe wedi cynnig llwyfan i ddarpariaeth gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, ar y cyd â phartneriaid allanol, ers sawl blwyddyn bellach, ac mae amserlen gyffrous o ddigwyddiadau wedi'i threfnu eleni eto.

GwyddonLe logo Elin Rhys, cyn-fyfyrwraig Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe, a rheolwr gweithredol cwmni Telesgop, fydd yn estyn croeso cynnes i bawb ar fore cyntaf yr Eisteddfod, ar 25 Mai am 11am. Yn ystod yr agoriad, bydd Elin yn egluro sut y mae wedi llwyddo i gyd-blethu ei diddordeb ym meysydd gwyddonol a’r cyfryngau yn ystod ei gyrfa.

Wedi’i lleoli yn Abertawe, mae Telesgop yn gwmni cyfryngol blaengar sydd ag arbenigedd mewn cynhyrchu rhaglenni teledu gwyddonol, ecolegol, materion gwledig a dogfennau cyfredol  ar gyfer y BBC, S4C, Animal Planet a’r Discovery Channel.

‌‌Ymysg y gweithgareddau fydd ar gael i ymwelwyr y GwyddonLe eleni, bydd cyfle i ddysgu sgiliau Minecraft gyda’r Big Learning Company, gwylio triciau gyda hylif nitrogen, cystadlu mewn amrywiol gystadlaethau, cyffwrdd ag anifeiliaid yn y pwll morol, dysgu am synhwyrau’r corff, gweld argraffydd 3D wrth ei waith, a llawer mwy!

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym yn hynod falch o fod ynghlwm â’r GwyddonLe unwaith eto eleni ac yn ddiolchgar i Elin Rhys am arwain yr agoriad swyddogol.

“Mae’n amser cyffrous iawn i Brifysgol Abertawe wrth i ni agosáu at agoriad campws gwyddoniaeth ac arloesi Campws y Bae ym mis Medi. Mae Prifysgol Abertawe yn hyrwyddo allgymorth i bobl ifanc er mwyn eu hysbrydoli ym maes gwyddoniaeth. Mae’r GwyddonLe yn gyfle gwych i ysbrydoli’r ymwelwyr i ymddiddori yn y gwyddorau a pharau â’u hastudiaethau yn y Brifysgol maes o law.

“Mae Prifysgol Abertawe yn ymfalchïo yn y berthynas sydd gennym â’r Eisteddfod, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r Brifwyl gan obeithio y bydd pawb yn cael cyfle i ymweld â’r babell i fwynhau’r wledd o weithgareddau fydd ar gael”.

Gyda thoreth o weithgareddau yn y GwyddonLe drwy gydol yr wythnos, bydd rhywbeth i bawb yno!

Bydd y GwyddonLe ar agor bob dydd o 10am tan 4pm.

Mae’n bosib gweld holl weithgareddau’r GwyddonLe ar ap Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Neu, gallwch weld yr amserlen lawn yma:  Amserlen GwyddonLe