Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn asio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgolion yng Ngorllewin Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi asio’u perthynas ymhellach er budd iechyd a lles pobl leol trwy arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr wythnos hon.

Mae ffurfioldeb arwyddo cytundeb yn cydnabod ymrwymiad y partneriaid at gydweithredu mewn ystod eang o feysydd - cyd-weithio cydfuddiannol.

Arwyddwyd y cytundeb ddydd Llun 16 gan gynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth, BIP Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Universities and health board cement relationshipCadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Prifysgol yw’r Athro John Gammon, sydd hefyd yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dirprwy Bennaeth Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe, dywedodd: “Mae hyn yn cydnabod ac yn ffurfioli cytundeb rhwng pob un ohonom i geisio annog a datblygu gweithgareddau cydweithredol mewn gwahanol ffyrdd, o gyfnewid syniadau ysgolheigaidd, cydweithio ar ymchwil a datblygu, datblygu gweithlu a sefydliadol, ac arloesi ar raglenni a phrosiectau penodol.

“Rwy’n sicr y bydd defnyddio’r gorau o’r hyn sydd gan bob un ohonom i’w gynnig, byddwn yn profi llwyddiant i alluogi’r ardal i gyflawni safonau uchaf iechyd, gofal meddygol, ymchwil, arloesi ac addysg a hyfforddiant ym maes gofal iechyd.”

Y nod yw i’r sefydliadau edrych i’r dyfodol ac adeiladu diwylliant sy’n:

  • hyrwyddo gwella ansawdd ym mhob gweithgaredd;
  • cyfoethog o ran gweithgareddau addysgiadol a chyfleon i ddatblygu staff;
  • helpu i ddenu a chadw’r staff gorau, yn cynnwys academyddion clinigol sy’n arwain y ffordd yn rhyngwladol;
  • hwyluso dal grantiau i glinigwyr ac academyddion, a throsi’r ymchwil i ymarfer;
  • annog arloesi a moderneiddio;
  • annog gwaith aml-ddisgyblaethol a mynediad at feysydd ymchwil newydd a datblygol ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth;
  • annog ceisiadau am waith ymchwil ar ddatblygu cynnyrch masnachol, a
  • hyrwyddo creu cyfoeth yn yr ardal a thu hwnt
  • cefnogi’r gwaith o ddal a dadansoddi profiad y claf
  • datblygu Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw a chyfleon gwybodeg i gyflawni eu potensial
  • Dywed Steve Moore, Prif Weithredwr BIP Hywel Dda: “Er nad yw’n ddogfen sy’n rhwymo mewn cyfraith, mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn ardystiad clir gan ein sefydliadau i gyd-weithio, a gobeithio y bydd yn galluogi staff ar draws ein sefydliadau i gydgyfrannu eu syniadau a’u hadnoddau lle bo budd y naill i’r llall. Mae hyn oll yn cael ei yrru gan yr angen i bob partner wella gyda’i gilydd dros iechyd, lles, addysg a chyfoeth cleifion a’r boblogaeth leol.”

‌Dywed Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth: “Fel rhan o gymuned canolbarth Cymru, gall Brifysgol Aberystwyth wneud cyfraniad pwysig at wella iechyd a lles mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig trwy ymchwil. Edrychwn ymlaen at ddatblygu partneriaeth â BIP Hywel Dda a phrifysgolion yr ardal a chyfrannu i’r datblygiad pwysig hwn.”

Dywed Yr Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi sefydlu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn â BIP Hywel Dda a phartneriaid eraill. Trwy gyfuno ein hadnoddau a’n meysydd arbenigedd, bydd yn ein galluogi i gyflawni’r safon uchaf o ofal iechyd a lles ar gyfer pobl leol.”

Dywed Dr Jane Davidson, Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae Grŵp PCYDDS yn cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion – fel grŵp sector deuol mae gan y Brifysgol gampysau yn Abertawe, Sir Gâr a Cheredigion. Golyga hyn bod PCYDDS mewn sefyllfa berffaith i gyd-weithio â phartneriaid allweddol i wella iechyd a lles ein cymunedau yng ngorllewin Cymru. Mae cydweithrediad y Brifysgol â BIP Hywel Dda a phartneriaid eraill eisoes wedi ein galluogi i gyd-weithio i fynd i’r afael â’r materion y mae trigolion ein cymunedau gwledig, yn enwedig, yn eu hwynebu. Bydd y cytundeb hwn yn dwyn partneriaid allweddol ynghyd er budd yr ardal gyfan.”

Gobeithio y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn a gweithgarwch perthynol yn gwneud y rhanbarth yn enghraifft genedlaethol a rhyngwladol o gydweithredu strategol a gweithredol effeithiol rhwng y gwasanaeth iechyd a’r prifysgolion sy’n bartneriaid.

Mae’r ffurfioldeb bellach ar waith am dair blynedd, a dylai hefyd gefnogi’r bwrdd iechyd i gadw ei statws Prifysgol, sy’n holl bwysig i ddenu recriwtio a buddsoddiad meddygol i ymchwilio a datblygu yn yr ardal.