Prifysgol Abertawe yn cyrraedd 10 uchaf y Deyrnas Unedig am foddhad myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd yr 8fed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr yn ôl canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) diweddaraf, gyda 91% o fyfyrwyr yn nodi eu bod yn hapus gyda'u profiad cyffredinol fel myfyrwyr yn Abertawe.

NSS Mae'r NSS yn arolwg cynhwysfawr o farn myfyrwyr a gynhelir ar draws y DU i gyd yn annibynnol ac yn ddienw gan Ipsos-MORI. Gofynnir i fyfyrwyr am eu sylwadau mewn meysydd megis addysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, y ffordd y mae eu cwrs wedi'i drefnu a'i reoli, adnoddau dysgu, datblygiad personol a'u Hundeb Myfyrwyr.

Cwblhaodd dros 1,866 o fyfyrwyr Abertawe arolwg 2015, sy'n cynrychioli 69% o'r rheiny a oedd yn gymwys.

•    Graddiodd myfyrwyr Abertawe eu bodlonrwydd cyffredinol â'r Brifysgol yn 91%, sy'n gynnydd o ddau bwynt canran, gan roi Prifysgol Abertawe yn gydradd wythfed yn y DU o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

•    Mae hyn 5% yn uwch na’r sgôr cyfartalog prifysgolion y DU, a 6% yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru.

•    Mae hyn yn gosod Prifysgol Abertawe o fewn 10 uchaf prifysgolion y DU, yn gydradd 8fed gyda phrifysgolion eraill gan gynnwys Rhydychen.

•    Mae 18 allan o'n 41 o feysydd pwnc ymhlith y deg uchaf o ran bodlonrwydd cyffredinol, gyda phedwar ar y brig (Geneteg, Astudiaethau'r Cyfryngau, Technoleg Feddygol ac Astudiaethau Hanesyddol ac Athronyddol), ac mae wyth arall yn y pump uchaf.

Yn ogystal â chynnydd i 91% ym moddhad cyffredinol, gwelodd Abertawe ei sgôr yn gwella ym mhob un o'r saith o'r meysydd unigol a aseswyd, gan gynnwys addysgu, asesu, a boddhad gydag Undeb y Myfyrwyr.

Student group in BlasMeddai’r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymdrechion parhaus y brifysgol i wella profiad ein myfyrwyr.

Rwyf wrth fy modd, nid yn unig i weld y gwelliannau dramatig mewn boddhad cyffredinol, ond hefyd y cynnydd mewn meysydd allweddol eraill megis addysgu, cefnogaeth academaidd a rheoli.

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n myfyrwyr, sydd wrth wraidd ein llwyddiant a’n gwelliant parhaol.

Gyda’n Campws y Bae newydd sy’n werth £450 miliwn, a’r gwelliannau sy’n cael eu gwneud ar Gampws Parc Singleton, mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn fyfyriwr yma yn Abertawe.

Mae'r canlyniadau hyn yn dangos yn glir yr ansawdd a’r gefnogaeth addysgu gall myfyrwyr newydd, a’r rheiny sy’n dychwelyd, ddisgwyl yn y flwyddyn sydd i ddod.”

Meddai Lewys Aron, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe:

“Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i fyfyrwyr Abertawe ac mae hyn yn dyst i'r gwelliannau mae’n myfyrwyr yn gweld o ddydd i ddydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Rwy’n falch gweld bod cynnydd wedi bod yng nghyfradd boddhad Undeb y Myfyrwyr, sy'n dangos ein bod dod yn ein blaenau.”