Prosiect ASTUTE yn arddangos ei lwyddiannau dros y bum mlynedd diwethaf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd llwyddiannau cydweithredu rhwng prosiect Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy (ASTUTE) a mentrau Cymreig yn yr Ardal Gydgyfeirio eu harddangos yn ddiweddar (ddydd Iau 14 Mai), mewn digwyddiad yng Ngwesty Towers, Jersey Marine, a gefnogwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

ASTUTE closing event 1Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Prosiect ASTUTE yn cyfuno'r arloesedd, yr arbenigedd a'r cyfleusterau o'r radd flaenaf diweddaraf ym maes gweithgynhyrchu uwch o'r wyth Prifysgol yng Nghymru.

Er ei lansio yn 2010, mae'r prosiect pum mlynedd gwerth £25 miliwn, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, eisoes wedi cefnogi mwy na 290 o fusnesau yn yr Ardal Gydgyfeirio.

Y Dirprwy Weinidog oedd y siaradwr gwadd yn y digwyddiad 'myfyrio ar lwyddiant ASTUTE' a gynhaliwyd yn ystod misoedd olaf y prosiect.

ASTUTE yw'r unig brosiect cronfeydd strwythurol y mae holl brifysgolion Cymru'n cydweithio ynddo. Mae'n cynnig cyfle i weithgynhyrchwyr Cymru gydweithredu, mewn modd didrafferth, ag arbenigwyr academaidd a diwydiannol o fri ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a busnes, gan ddarparu atebion arloesol a chynaliadwy i heriau gweithgynhyrchu go iawn.

Meddai'r Dirprwy Weinidog: "Mae cydweithrediad rhwng academyddion a byd diwydiant yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi'i annog a'i gefnogi ers sawl blwyddyn. Rwyf wrth fy modd bod prosiect ASTUTE, a ariennir gan yr UE, yn arwain y maes yn yr ymdrech hon."

ASTUTE closing event 2Bu nifer o swyddogion prosiect ASTUTE yn cyflwyno astudiaethau achos diddorol o'u cydweithredu â diwydiant, gan ddangos yr effaith 'llawr gwaelod' mae ASTUTE wedi'i chael ar fusnesau yng Nghymru dros y bum mlynedd diwethaf. Yn bresennol hefyd yr oedd nifer o gynrychiolwyr o'r cwmnïau hyn sydd eisoes wedi ymrwymo i brosiect dilynol.

Mae'r prosiect eisoes wedi rhagori ar ei dargedau cychwynnol gan greu buddsoddion gweithgynhyrchu ychwanegol gwerth mwy na £6.6 miliwn yng Nghymru a dyma rai o'i gyflawniadau eraill: naw menter newydd wedi'u sefydlu; mwy na 158 o swyddi wedi'u creu; mwy na 340 o gynhyrchion, prosesau ac arloesiadau gwasanaeth newydd neu well wedi'u lansio neu eu rhoi ar waith; a phatentu neu fasnachnodi 42 o syniadau ar gyfer cynhyrchion neu brosesau unigryw.

Daeth adroddiad annibynnol i'r casgliad bod gwaith ASTUTE wedi creu effaith economaidd sy'n werth ymhell dros £200m yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd, gan ddangos bod effaith economaidd ragorol wedi'i chyflawni, sef mwy nag £8 o enillion ar gyfer pob £1 a fuddsoddwyd.

Cafwyd llwyddiannau hefyd wrth annog cwmnïau i fabwysiadu arferion amgylcheddol a chydraddoldeb gwell, yn ogystal â defnyddio prosesau gweithgynhyrchu mwy gwastraff-effeithlon a main.

Gan edrych tua'r dyfodol, ychwanegodd yr Athro Sienz: "Yn seiliedig ar y llwyddiant rhagorol a'r effaith economaidd uchel a gyflawnwyd gan bartneriaeth ASTUTE ar gyfer gorllewin Cymru a'r alwad barhaus gan ddiwydiant am gydweithredu â phrifysgolion Cymru a defnyddio eu harbenigedd o'r radd flaenaf, mae trafodaethau ar y gweill â'r asiantaeth ariannu i barhau i gefnogi diwydiant gweithgynhyrchu Cymru er mwyn creu hyd yn oed mwy o swyddi ac effaith."