Ymchwil ar gimychiaid yn tynnu sylw at effaith ardaloedd morol gwarchodedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe’n awgrymu bod cimychiaid Ewropeaidd mewn ardaloedd morol gwarchodedig iawn yn fwy a bod ganddynt ddwyseddau poblogaeth uwch, ond mae’r effeithiau cadarnhaol hyn hefyd wedi arwain at rai canlyniadau anfwriadol.

Charlotte Eve Davies

Gwnaeth ymchwil gan Dr Charlotte Eve Davies o Goleg Gwyddoniaeth  y Brifysgol, a gyhoeddwyd yn ICES Journal of Marine Science gymharu ardal bysgota â pharth di-bysgota gwarchodedig wyth mlwydd oed yn y parth di-bysgota ar Ynys Wair. Er i’r ymchwil ddangos bod nifer fawr o gimychiaid yn y parth di-bysgota a bod y cimychiaid hynny’n tueddu bod yn fwy, roedd hefyd yn fwy tebygol bod y cimychiaid hynny wedi’u hanafu.  

Canfuwyd bod y cimychiaid a ddaliwyd yn yr ardal ddi-bysgota’n 71% yn fwy tebygol o fod wedi’u hanafu na’r cimychiaid hynny yn yr ardal bysgota, a allai fod o ganlyniad i orlenwi sy’n arwain i’r anifeiliaid hynod diriogaethol hyn gystadlu ac ymladd â’i gilydd. Mewn cysylltiad â hyn, os oedd cimwch wedi’i anafu, byddai’r cimwch hwnnw’n 76% yn fwy tebygol o fod yn dioddef o glefyd y gragen nag anifail nad oedd wedi’i anafu, ni waeth ymhle y cafodd ei ddal.

Meddai Dr Davies: “Mae ardaloedd morol gwarchodedig bob amser wedi’u hystyried yn ddatrysiad ar gyfer cadwraeth, gyda mwy o ddalfa, a gorlif i bysgodfeydd cyfagos yn helpu i ail-lenwi stociau sydd wedi’u gorbysgota a gwella recriwtio. Mae ein hastudiaeth yn ddiddorol gan ei bod yn cyflwyno’r syniad y gallai poblogaethau sydd heb eu pysgota mewn gwarchodfeydd morol gyrraedd trothwy yn y pen draw pan fydd amodau’n mynd yn afiach. Gallai hyn hefyd gyflwyno’r posibilrwydd o bysgota dan reolaeth mewn parthau di-bysgota hirsefydlog. 

Ynys Wair oedd y warchodfa natur forol gyntaf, yr ardal ddi-bysgota gyntaf a’r parth cadwraeth morol cyntaf yn nyfroedd y DU a chafodd ei rhoi ar waith gyda monitro heb waelodlin yn nhermau clefyd ac iechyd y boblogaeth.  

Meddai Dr Davies: “Gallai hwn fod yn gam dadleuol ond mae astudiaethau wedi dangos y gallai niferoedd uchel mewn gwarchodfeydd morol roi anifeiliaid mewn perygl o ddal clefydau, yn enwedig gan nad oes modd dihysbyddu heintiau erbyn hyn. Mae ein hastudiaeth yn tynnu sylw at effeithiau cadarnhaol a negyddol ardaloedd morol gwarchodedig ac mae ganddi oblygiadau ar gyfer ecolegwyr, rheolwyr pysgodfeydd a physgotwyr. Mae gwaharddiad llwyr ar bysgota’n sicr yn gam cadarnhaol wrth ganiatáu i boblogaethau aildyfu i ddwyseddau heb eu hecsbloetio, ond mae’n bosib bod ganddynt gyfnod cyfyngedig o lwyddiant. Gellir dod o hyd i’r astudiaeth yma