Abertawe ar y brig yng Nghymru ar ôl cipio gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru The Times and The Sunday Times Good University Guide 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 23 Medi) mai Prifysgol Abertawe yw’r brifysgol orau yng Nghymru yn ôl tabl cynghrair The Times and The Sunday Times Good University Guide 2017. Ar ben hynny, mae Abertawe hefyd wedi cipio gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru - gwobr newydd sbon a ddyfarnwyd am y tro cyntaf eleni.

Mae’r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu cynllun datblygu campws uchelgeisiol y Brifysgol, sy’n cynnwys datblygiadau gwerth £60 miliwn ar gampws Parc Singleton, llai na blwyddyn ar ôl agor Campws y Bae ym mis Medi y llynedd.

Mae’r nifer o geisiadau i'r Brifysgol wedi cynyddu dros 60% dros y tair blynedd diwethaf, gyda 1,600 o fyfyrwyr israddedig ychwanegol dros yr un cyfnod.

Welsh University of the Year 2017 Mae rhagoriaeth y Brifysgol am ei rhagolygon i raddedigion yn elfen bwysig yn ein llwyddiant eleni, gydag Abertawe ymhlith y 30 uchaf yn y DU. Tynnwyd sylw arbennig at  Academi Cyflogadwyedd Abertawe, sy'n darparu interniaethau â thâl, ac sy’n cydlynu amrywiaeth o gefnogaeth yrfaol i fyfyrwyr.

Mae cyflawniad rhyfeddol y Brifysgol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF 2014) hefyd yn cael ei gydnabod, lle cafodd pedair rhan o bump o'r gwaith a gyflwynwyd ar gyfer ei asesu fel safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol, gyda phynciau iechyd, Saesneg a pheirianneg yn rhagori yn gyffredinol.

Meddai Alastair McCall, Golygydd The Sunday Times Good University Guide: “Mae Prifysgol Abertawe yn llawn haeddu derbyn ein gwobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru. Mae agor Campws y Bae wedi cael effaith drawsnewidiol ar y brifysgol, gan gynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr, a hynny mewn lleoliad gwych, gan ddenu mewnfuddsoddiad enfawr ar ffurf prosiectau ymchwil.

"Mae'r campws newydd hefyd wedi effeithio’n sylweddol ar niferoedd myfyrwyr y brifysgol, sgan wneud Abertawe yn hynod ddeniadol i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt.”

‌Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: "Mae Prifysgol Abertawe wedi dal i fyny gyda Chaerdydd ac wedi newid tirwedd Addysg Uwch Cymru. Mae'r dystiolaeth yn glir: bellach mae ‘na ddwy brifysgol o'r radd flaenaf yng Nghymru, sy’n lled debyg o ran ansawdd. Mae’r llwyddiant hyn yn dangos datblygiad sylweddol y Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf.

Professor Richard. B Davies, Vice-Chancellor “Mae’r llwyddiant hyn hefyd yn newyddion da i’n myfyrwyr. Yn y farchnad swyddi gystadleuol, nid eich gradd yn unig sy’n bwysig , ond hefyd enw da'r brifysgol byddwch yn mynychu. Bydd enw da Prifysgol Abertawe yn sicr o greu cyfleoedd swyddi gwell ar gyfer ein graddedigion.

"Dylai'r dathliad hefyd ymestyn y tu hwnt i'r Brifysgol. Bydd y cynnydd yn nifer y myfyrwyr yn rhoi hwb i'r economi leol a bydd Rhanbarth Bae Abertawe yn elwa wrth i ni ddefnyddio enw da’r Brifysgol i helpu i ddenu mwy o gwmnïau a buddsoddiad."

Yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mawrth 22 Medi) enillodd Prifysgol Abertawe ei safle uchaf erioed yn nhabl cynghrair y Times Higher Education (THE) World University Rankings 2016/2017 - y rhestr ddiffiniol o'r sefydliadau gorau yn y byd.

Mae’r Brifysgol bellach ymhlith y 350 uchaf o sefydliadau elitaidd ledled y byd o gymharu ag y llynedd pan enillodd y Brifysgol safle 301 - 350. Yn ogystal, gosododd THE y Brifysgol yn safle 38 allan o holl brifysgolion y Deyrnas Gyfunol.