Abertawe wedi’i gosod yn ei safle uchaf erioed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Unwaith eto mae Prifysgol Abertawe wedi gwella ei safle ymhlith 900 o brifysgolion gorau’r byd yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS® 2016/2017, gan gyrraedd safle rhyngwladol newydd o 390fed.

Mae enw da rhyngwladol cynyddol y Brifysgol wedi’i gweld yn neidio 71 lle yn nhablau QS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi Abertawe yn ei safle gorau erioed. 

Yn ôl canlyniadau diweddaraf QS, mae Prifysgol Abertawe:

  • Ymhlith y 200 gorau ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol (y gyfran o fyfyrwyr sy’n rhai  rhyngwladol);
  • Ymhlith y 250 gorau ar gyfer Cyfadran Ryngwladol (y gyfran o aelodau cyfadran sy’n rhyngwladol);
  • Ymhlith y 350 gorau ar gyfer Myfyrwyr Cyfadran (y gymhareb rhwng y nifer o staff academaidd a’r nifer o fyfyrwyr)
  • Ymhlith y 400 gorau ar gyfer Dyfyniadau fesul Cyfadran (y nifer gyfartalog o ddyfyniadau fesul aelod cyfadran, ac mae’n amcangyfrif o effaith ac ansawdd y gwaith gwyddonol a gynhyrchir gan brifysgolion).

QS Top 400 badge 2016-17Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor: “Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Abertawe’n gwneud cynnydd ac yn parhau i wella’i safle yn y tablau rhyngwladol, megis tabl QS eleni. Bob blwyddyn mae’r her i aros o fewn y 400 gorau yn cynyddu wrth i ni gystadlu â sefydliadau elit y byd, felly mae gwella’n marc yn dipyn o gyflawniad.”

 “Y mis diwethaf yn Nhabl Academaidd Prifysgolion y Byd Shanghai Rankings Subject Rankings, enwyd ein Coleg Peirianneg mewn tri maes; ymysg y 200 gorau ar gyfer Peirianneg Fecanyddol  a’r Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg; ac ymhlith y 300 gorau ar gyfer Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg .

“Derbyniom yr acolâd ychwanegol hwn ar ôl i’n disgyblaethau Peirianneg gael eu rhoi ymhlith prifysgolion elit y byd yn Nhabl Prifysgolion y Byd QS Fesul Pwnc 2016, yn ôl ym mis Mawrth. Mae Peirianneg Sifil a Strwythurol wedi cadw’i le ymhlith safleoedd 151-200 ers y llynedd, ac eleni mae Peirianneg Fecanyddol, Awyrennol a Gweithgynhyrchu hefyd wedi ymuno â’r 200 gorau, i fyny o fod ymhlith y 250 uchaf y llynedd. Mae Mathemateg hefyd yn y safleoedd, ymhlith y 350 uchaf.

“Yn ystod yr wythnos hon pan fo’r Brifysgol yn falch o fod yn cynrychioli’r ŵyl glodfawr Gŵyl Wyddoniaeth Prydain , sydd eto’n tynnu sylw’r byd at ein hymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang – mae’n safleoedd yn Nhabl QS ar gyfer 2016/2017, yn ogystal â’n graddau cyson dda mewn arolygon a thablau cynghrair annibynnol eraill ar gyfer boddhad myfyrwyr, cyflogadwyedd a rhagoriaeth ymchwil – yn cadarnhau bod Prifysgol Abertawe ar i fyny ac yn cryfhau ei henw da am ragoriaeth ryngwladol.”

Mae'r newyddion am y gwelliant hwn yn ein henw rhyngwladol yn dilyn cyfres o lwyddiannau diweddar yn Abertawe, er enghraifft:

-       Gwireddu uchelgais y Brifysgol o fod ymhlith 30 sefydliad ymchwil gorau'r DU - llwyddodd Abertawe i gyrraedd y 26ain safle (i fyny o 52) yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF2014);

-       Derbyn 5 Seren am ragoriaeth yn asesiad ansawdd byd-eang QS Stars , sydd yn ein gosod ymhlith sefydliadau blaenllaw eraill y byd sydd hefyd wedi cyflawni 5 seren megis Harvard a Rhydychen;

-       Cyrraedd safle ymhlith y 15 gorau yn y DU am gynhyrchu graddedigion byd-eang sy’n gallu cael swyddi lefel broffesiynol neu ymgymryd ag astudiaethau pellach ar lefel raddedig (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, Arolwg Ymadawyr Addysg Uwch);

-       Dringo i fod ymhlith y 40 gorau yn y DU yn Nhablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2017, i’r 39ain safle – y naid fwyaf gan unrhyw brifysgol yng Nghymru;

-       Safle ymhlith y 200 o brifysgolion rhyngwladol gorau yn rhestr fawreddog Addysg Uwch y Times (THE) o’r ‘prifysgolion mwyaf rhyngwladol’;

-       Dod yn 14eg yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr, yn ôl Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016;

-       Cyrraedd rhestr fer Gwobrau Addysg Uwch y Times 2016, ar gyfer Gwobr Teilyngdod Pwyntiau Data THE, sy’n cydnabod prifysgol yn y DU sy’n cyfuno perfformiad eithriadol ar draws cenadaethau addysgu ac ymchwil, gan roi pwyslais ar y gwerth ychwanegol y mae’r sefydliad yn ei roi i’w fyfyrwyr a’i raddedigion.

Mae datblygiad gwyddoniaeth ac arloesi rhagorol y Brifysgol, Campws y Baesy’n werth £450miliwn a agorwyd yn ffurfiol ym mis Medi 2015, wedi ymestyn cyrhaeddiad rhyngwladol y sefydliad, gan ganiatáu i’r Brifysgol ehangu ei phartneriaethau strategol rhyngwladol  cynyddol a’i chydweithrediadau rhwng diwydiant a’r byd academaidd.

“Mae'r partneriaethau hyn yn dod â meddylwyr academaidd o'r radd flaenaf ynghyd i gyfnewid syniadau ac maent yn hwyluso ymchwil ar y cyd o fri rhyngwladol. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd ardderchog i fyfyrwyr weithio neu astudio dramor gyda chefnogaeth dros 100 o bartneriaethau â phrifysgolion byd-eang,”  ychwanegodd yr Athro Lappin-Scott.

“Edrychwn ymlaen yn awyddus ac yn ddisgwylgar at flwyddyn academaidd 2016-2017, gan ddathlu ein llwyddiant parhaus, sy’n dod â ni’n gam sylweddol yn nes at wireddu’n huchelgais o fod ymhlith 200 o Brifysgolion gorau’r byd.”