Academyddion o Abertawe yn rhoi cyflwyniad mewn gweithdy yn Dubai yn hyrwyddo ymddygiad gwyrdd ar gyfer gweithleoedd ynni effeithlon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ddiweddar, cymerodd staff academaidd o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ran mewn gweithdy ymchwil yn Dubai a noddwyd gan y Cyngor Prydeinig a fu’n archwilio ysgogi ac ymgysylltu â gweithwyr er mwyn hyrwyddo ymddygiad gwyrdd o safon gan arwain at weithleoedd ynni effeithlon.

SoM Dubai presentationCyfrannodd yr Athro Yogesh Dwivedi, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd Datblygol a Dr Emma Slade, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig, at y gweithdy tri diwrnod a drefnwyd gan Brifysgol Salford a Phrifysgol Wollongong yn Dubai a gynhaliodd y digwyddiad.

Roedd y gweithdy’n cynnig ystod o weithgareddau gan gynnwys cyflwyniadau a sesiynau trafod ar y materion sy’n ymwneud ag ymddygiad gwyrdd, dan arweiniad arbenigwyr academaidd ac arweinwyr diwydiannau.

Cyflwynodd yr Athro Dwivedi a Dr Slade sgwrs ar sut i hyrwyddo a monitro ymddygiad gwyrdd ymhlith gweithwyr trwy ddefnyddio Technolegau/Systemau Gwybodaeth a buont yn hwyluso un o drafodaethau’r sesiwn ar y thema hon.

Yn ystod ail ddiwrnod y gweithdy, derbyniodd y cyfranogwyr wahoddiad i Awdurdod Trydan a Dŵr Sharjah (SEWA) i gwrdd â’r Cadeirydd, Dr Rashid Alleem a chael trafodaeth ag ef. Hefyd, derbyniodd cyfranogwyr y gweithdy gyfle i ymweld â Masdar City, sef dinas ecogyfeillgar a chynaliadwy sy’n datblygu, ac Etihad Green Plant.

Meddai’r Athro Yogesh Dwivedi: “Roedd y gweithdy rhyngwladol hwn yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn ac mae cynnal mwy o ymchwil ar bynciau o’r math, yn ogystal â rhyngweithio rhwng arbenigwyr academaidd ac arweinwyr diwydiannau yn hanfodol er mwyn datblygu cymdeithas gynaliadwy. Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn edrych ymlaen at gydweithio pellach yn y maes hwn.”

Am wybodaeth bellach am yr Ysgol Reolaeth cliciwch yma.