Artist preswyl cyntaf mewn cynhadledd yn y DU yn cloddio'n ddwfn am ysbrydoliaeth - celf gyfoes wedi'i hysbrydoli gan dreftadaeth ddiwydiannol de Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bu Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe'n falch o ddadorchuddio’r darn o gelf gyfoes gyntaf a grëwyd ar y cyd i gael ei arddangos yn barhaol yn ei gartref newydd ar Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae.

Low Coal - RmerCrëwyd y gwaith, o'r enw 'Low Coal' (ynganiad: 'Local'), gan yr artist graffiti/erosol a'r darlunydd o Gaerdydd, Rmer (ynganiad: 'Armour'), sef ffugenw Bradley Woods, yn ystod cynhadledd ddiweddar Croeso Cymru, Antur mewn Data Mawr, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â'r Ysgol Reolaeth.

Credir mai Rmer yw'r artist preswyl cyntaf yn y DU i gael ei gomisiynu i greu celf mewn cynhadledd. Daeth 150 o gynadleddwyr i'r Ysgol Reolaeth  y mis diwethaf i glywed siaradwyr o UDA a gwledydd Ewropeaidd gan gynnwys Slofenia, Fflandrys, Gogledd Iwerddon, Sbaen, Denmarc a Chymru, wrth gwrs.

Meddai'r Athro Terry Stevens, sy'n arwain y fenter newydd, Cyrchfannau Rhyngwladol Dynameg yn yr Ysgol Reolaeth ac a helpodd i drefnu'r gynhadledd, "Mae gwaith artistiaid trefol a fu'n ymwneud â'r prosiect Illustrate yng Nghaerdydd wedi gwefreiddio'r Ysgol Reolaeth, felly roeddem yn awyddus i gomisiynu un o'r artistiaid mwyaf blaenllaw a fu'n ymwneud â'r prosiect hwn i gymryd rhan yn y gynhadledd Antur Mewn Data Mawr gyda Croeso Cymru.

"Heriwyd Rmer i ddechrau gweithio ar y darn wrth i Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ddechrau anerchiad agoriadol y gynhadledd ac i gwblhau'r gwaith o fewn pedair awr, wrth i brif ddigwyddiadau'r gynhadledd ddirwyn i ben.

"Mae  'Low Coal', darn o waith celf graffiti erosol ar bren haenog sy'n mesur 16' x 8', bellach yn cael ei arddangos yn barhaol yn yr Ysgol. Hwn yw'r un cyntaf mewn cyfres o ddarnau o gelf gyfoes a grëwyd ar y cyd a fydd yn rhan o arddangosfa barhaol yng nghartref newydd yr Ysgol ar Gampws y Bae."

Gan ddisgrifio ysbrydoliaeth ei waith, meddai Rmer, “Cloddio Data Mawr" oedd y brîff ar gyfer y comisiwn celf hwn.  Gan fy mod i'n Gymro, i ddechrau, roeddwn i'n meddwl am lowyr fel y prif bwnc gan fod y darn yn canolbwyntio ar hanes a busnes lleol de Cymru.

“Roeddwn i am ddefnyddio tonau llwyd ar gyfer y prif lun i gynrychioli'r gorffennol/hanes a phenderfynais gynrychioli'r dyfodol drwy'r symbolau "0 ac  1" lliwgar a haniaethol a ysbrydolwyd gan fatrics.”

Ychwanegodd yr Athro Marc Clement, Deon Ysgol Reolaeth y Brifysgol, "Mae'r delweddau wedi creu argraff emosiynol ddofn arnaf. Yr ofn amlwg am y dyfodol sydd i'w weld yn llygaid y glöwr... llun o ddyn sy'n gwybod bod ei ysgyfaint yn llawn llwch glo a nicotin, bod ei swydd wedi dod i ben ac y bydd dyfodol economi Cymru i'w gael mewn rhyw algorithm annealladwy.

“Mae'n ddehongliad teimladwy ac yn gamp ryfeddol gan Rmer. Rydym yn falch ein bod wedi cymryd y cam cyntaf hwn o ysbrydoli celf yn y ffordd unigryw hon."