Burton yn 14 – pobl ifanc yn archwilio tyfu i fyny ym Mhort Talbot

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Sut mae profiad pobl ifanc o dyfu i fyny ym Mhort Talbot heddiw yn cymharu â phrofiad mab enwocaf y dref, yr actor Richard Burton? Bydd myfyrwyr o Goleg Castell-nedd Port Talbot yn dysgu hyn drwy ddilyn ôl troed y seren a darllen ei ddyddiaduron fel rhan o brosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe, Burton yn 14.

Wedi'i gefnogi gan arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, fel rhan o Burton yn 14 bydd y myfyrwyr yn defnyddio dyddiaduron Richard Burton ac adnoddau eraill dros y 18 mis nesaf i ddatgelu hanes cymdeithasol y dref a'i phreswylwyr o'r 1930au hyd heddiw. Byddant yn derbyn hyfforddiant recordio fideos, hanes llafar, archifo, sgiliau digidol a sgiliau celfyddydol, yna'n defnyddio'r rhain i ailadrodd stori Port Talbot.

Bydd y grŵp yn treulio peth amser yn gweithio gyda dyddiaduron a phapurau'r actor lle cedwir hwy yn Archifau Richard Burton y Brifysgol. Byddant yn ymweld â thirnodau lleol a oedd yn bwysig i'r Richard Burton ifanc ac yn gwylio rhai o'r ffilmiau a oedd yn y sinemâu ar y pryd.

Y nod yw eu helpu i brofi sut beth oedd tyfu i fyny ym Mhort Talbot a gweld pa mor wahanol – neu debyg – oedd y materion yr oedd Richard Burton yn eu hwynebu i'r rhai y mae pobl ifanc leol yn eu hwynebu heddiw.

Burton diaries

Llun: rhai o ddyddiaduron Richard Burton, sydd yn Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe

Uchafbwynt y prosiect fydd creu pecyn adnoddau parhaol ar gyfer y gymuned, yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i rannu canfyddiadau'r grŵp.

Arweinir Burton yn 14 gan Brosiect Dewis Prifysgol Abertawe ac Archifau Richard Burton, ar y cyd â Choleg Castell-nedd Port Talbot (Grŵp NPTC), Gwasanaethau Llyfrgell Port Talbot a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe.

Wrth i'r prosiect ddatblygu, bydd arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a phartneriaid eraill yn cymryd rhan.

Meddai Eirwen Hopkins o Brifysgol Abertawe, sy'n rhedeg y prosiect Burton yn 14,

"Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe yn dal casgliad helaeth o ysgrifennu gwreiddiol Richard Burton, a sylweddolodd y bobl ifanc yn gyflym iawn fod rhai pobl ym Mhort Talbot yn gwybod ychydig iawn am y dyn go iawn, er eu bod yn dod o'r un strydoedd ag y cerddodd ar eu hyd.

Gadawodd enwogrwydd Richard Burton etifeddiaeth enfawr i'r dref, ond cafodd y dref effaith fawr arno ef hefyd fel dyn ifanc yn tyfu i fyny yn ne Cymru. Rydym am ddefnyddio'i ddyddiaduron preifat i ailgysylltu pobl ifanc â hanes newidiadau personol, cymdeithasol a chelfyddydol sydd ar garreg eu drws."

Meddai Elisabeth Bennet, archifydd Prifysgol Abertawe: "Mae'r prosiect yn gyfle gwych i ddefnyddio dyddiaduron Richard Burton mewn ffordd newydd. Mae'r dyddiadur cynnar yn rhoi cipolwg ar fywyd bachgen arferol yn ei arddegau yn cofnodi digwyddiadau cyffredin ochr yn ochr â rhai rhyngwladol.

Rydym yn gyffrous y bydd Burton yn 14 rhoi ffordd i bobl ifanc Port Talbot weld y gorffennol ac archwilio sut mae Port Talbot wedi'u ffurfio nhw a Richard Burton."

Richard Burton – o Bort Talbot i enwogrwydd byd-eang

The Richard Burton Diaries cover picAr ôl marwolaeth ei fam pan oedd yn ddwy oed yn unig, aeth Richard Burton – neu Richard Jenkins fel ag yr oedd bryd hynny – i fyw gyda'i chwaer a'i gŵr hi. Nid oedd llawer o arian dros ben yn y teulu, felly er mwyn ennill digon i fyndi'r sinema byddai Richard yn casglu papurau newydd i'w fodryb, a oedd yn werthwr pysgod, yn ogystal â chasglu a gwerthu dom o fryn gerllaw i fasnachwr gwrtaith lleol.

Ar ôl i Richard ddangos addewid celfyddydol yn yr ysgol, cymerodd yr athro Saesneg, Philip Burton, ef dan ei adain, gan roi dosbarthiadau actio, areithyddiaeth a iaith iddo. Yna daeth yn warcheidwad cyfreithiol iddo pan oedd Richard yn 18 – cymerodd Richard enw'i fentor fel ei enw ef.

Aeth Richard ymlaen i ennill enwogrwydd byd-eang a ffortiwn fel un o actorion gorau ei genhedlaeth ar y llwyfan ac ar y sgrîn.

 

Richard Bellamy yw Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, a chred y gall y prosiect roi golwg newydd i ni ar fywyd yn yr ardal ddiwydiannol: "I bobl ifanc heddiw, bydd gweld bywyd yn y dref drwy lygaid y Richard ifanc yn y 1930au a'r 1940au yn siwrnai ddiddorol.

Mae'n gyfle unigryw i weld datblygiad hanesyddol y gymuned, ond i wneud hynny drwy lygaid eicon byd-eang."

Ychwanegodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock: "Mae cysylltu pobl ifanc â hanes eu hardal leol yn bwysig, a dylai manteisio ar adnodd cyfoethog a lleol megis Archifau Richard Burton ddarparu llwyth o ddeunyddiau er mwyn deall Port Talbot yn well, o safbwynt unigryw.

Wedi gweithio gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri yn gynt yn y flwyddyn ar Ffair Ariannu, mae'n galonogol gweld llwyddiant grwpiau lleol o ganlyniad, ac anogaf bobl eraill i fanteisio ar y cyfle i drafod syniadau gyda staff y Gronfa yng Nghymru. ”

Gwybodaeth am y Prosiect Dewis

Mae Dewis yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i ymwneud yn fwy ag addysg a hyfforddiant.

Mae'n rhan o Adran Ddaearyddiaeth Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.

Gwybodaeth am Archifau Richard Burton

Cof corfforaethol a chronfa archifau Prifysgol Abertawe, sy'n dal deunyddiau o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'n cynnwys deunyddiau am fywyd a gyrfa'r actor byd-enwog, Richard Burton, megis dyddiaduron yr actor.