Dangosiad cyntaf ffilm Dr Fflur Dafydd yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Y Llyfrgell, addasiad o nofel arbennig a phoblogaidd Dr Fflur Dafydd, uwch-ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r ffilm hefyd wedi’i enwebu yng nghategorïau ‘Ffilm Brydeinig Orau’ a ‘Perfformiad Gorau Mewn Ffilm Brydeinig’ yr Ŵyl.

Drama ias anghonfensiynol yw Y Llyfrgell, sydd wedi ei lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae’r cast yn cynnwys Ryland Teifi (35 Diwrnod, Tir) Catrin Stewart (Stella, Doctor Who), Dyfan Dwyfor (Pride, Y Gwyll) a Sharon Morgan (Resistance, Torchwood).

Wedi i’r awdures enwog, Elena Wdig ladd ei hunan, mae ei dwy ferch, Nan ac Ana  (Catrin Stewart), y ddwy yn efeilliaid ac yn llyfrgellwyr, yn naturiol yn teimlo ar goll hebddi. Mae geiriau olaf Elena’n awgrymu mai ei chofiannydd, Eben a’i lladdodd . Felly, yn ystod rhyw sifft waith gyda’r nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar ymchwiliad i’r llofruddiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dial am farwolaeth eu mam, ond pwy ddaw ar eu traws ond Dan, y porthor nos, a chaiff yntau ei lusgo i mewn i’r saga.

Y Llyfrgell / The Library Suicides ‌Catrin Stewart yn chwarae Nan ac Ana yn Y Llyfrgell  

Mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn, sydd wedi cyfarwyddo Happy Valley, Sherlock, Last Tango In Halifax, Broadchurch, Black Mirror, a Daredevil,  sydd rhyngddynt wedi ennill pum gwobr BAFTA am Gyfresi Drama Gorau, tair gwobr BAFTA am y Cyfarwyddwr Gorau, ac Emmy Rhyngwladol. Y Llyfrgell yw’r ffilm hir gyntaf iddo gyfarwyddo.

Fflur DafyddYn ogystal â bod yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol, mae Dr Dafydd (chwith) hefyd yn gynhyrchydd, yn gantores, ac yn awdur nofelau a rhaglenni teledu, ac eisoes wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am Y Llyfrgell.

Meddai Dr Dafydd: “Fel ffilm y dychmygais y syniad hwn yn wreiddiol, ond ysgrifennu llyfr a wnes i yn y pen draw. Mae gweld y cymeriadau yma’n dod yn fyw ar y sgrîn fawr yn dod â’r freuddwyd yn fyw, a theimlaf yn ffodus iawn o gael cydweithio gyda chyfarwyddwr hynod dalentog a chast rhagorol, a gweld pawb yn cyfrannu eu gweledigaeth unigryw eu hunain i’r prosiect.”

Y Llyfrgell yw’r drydedd ffilm i gael ei chynhyrchu gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales. Dyfeisiwyd a datblygwyd Cinematic mewn partneriaeth â’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, a Soda Pictures ac S4C. Mae’r cynllun  yn cefnogi talent creu ffilmiau newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cynyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol a dyma’r cyntaf i gael ei ffilmio yn yr iaith Gymraeg. Soda Pictures sydd â’r hawliau dosbarthu yn y DG ac Iwerddon, ac S4C a fydd yn gyfrifol am ddarlledu’r ffilm yn y dyfodol.

Caiff Y Llyfrgell ei rhyddhau mewn sinemâu fis Awst eleni.

Am docynnau i weld y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin, cliciwch yma.