Darlith O’Donnell Prifysgol Cymru 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar 26 Ebrill, bydd yr Athro E. Wyn James o Brifysgol Caerdydd yn traddodi Darlith O’Donnell Prifysgol Cymru 2016

Teitl y ddarlith: ‘Calfiniaid a Chymreigyddion: Tensiynau ym Mywyd Cymraeg Llundain, 1750–1850’

Siaradwr: Yr Athro E. Wyn James (Prifysgol Caerdydd)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2016

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP

Mynediad: Croeso i bawb ac mae mynediad am ddim. Bydd derbyniad am 6.00pm a’r ddarlith i ddilyn am 6.30pm

Darperir cyfieithu ar y pryd


Crynodeb o'r ddarlith:

Gwelodd y cyfnod 1750-1850 newidiadau daeargrynfaol ym mywyd Cymru. Yn 1750, gwlad eithaf ceidwadol oedd Cymru, a’r teyrngarwch i’r boneddigion ac i’r Eglwys Wladol bron yn ddiwyro. Ond, yn dilyn twf arwyddocaol mewn radicaliaeth a Methodistiaeth, erbyn yr 1850au yr oedd Cymru wedi profi radicaleiddio gwleidyddol ar raddfa eang, ac yr oedd pedwar allan o bob pump o’r rhai a fynychai le o addoliad erbyn hynny yn mynd i gapeli Anghydffurfiol. Datblygiad newydd yn y cyfnod hwn oedd ffurfio nifer o gymdeithasau Cymraeg lliwgar a dylanwadol ymhlith Cymry Llundain. Bydd y ddarlith hon yn canolbwyntio ar fywyd Cymraeg Llundain, sydd yn ficrocosm o’r newidiadau mawr a oedd ar gerdded yn y diwylliant Cymraeg yn ail hanner y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r tensiynau mawr a grëwyd gan y newidiadau hynny.

Yr Athro E. Wyn James

Yr Athro E Wyn James Graddiodd yr Athro James yn y Gymraeg o Aberystwyth yn 1972. Ar ôl cyfnod yn Swyddog Ymchwil yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth ac yn Ddirprwy Warden Neuadd Pantycelyn, treuliodd ddwy flynedd ar bymtheg yn Gyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru. Fe'i benodwyd yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994, ac mae ef bellach yn Athro ac yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America.

Darlithoedd O'Donnell

Sefydlwyd Darlithoedd O'Donnell, sydd yn ymwneud â phwnc sy'n gysylltiedig ag astudiaethau Celtaidd, trwy ewyllys CJ O'Donnell, ac maent yn digwydd yn rheolaidd yng Nghaeredin, Rhydychen a Chymru.

Gwyddel a fu farw ym 1934 oedd Charles James O'Donnell. Roedd yn aelod dylanwadol, ond eto’n rebel, o Wasanaeth Sifil India, a bu’n feirniadol iawn o bolisi Llywodraeth Prydain yn India ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. Roedd yn frwd o blaid diwygio tir yn India, a bu sôn hefyd ei fod o blaid hunanlywodraeth i Iwerddon. Roedd ganddo hefyd ddiddordeb yn y dylanwad Celtaidd ar ieithoedd a phobl Prydain.