Dathlu’r ugeinfed Her Varsity Cymru yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd heddiw mai dydd Mercher 20 Ebrill fydd y dyddiad y cynhelir Her Varsity Cymru 2016, y gystadleuaeth flynyddol rhwng prifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Varsity Cymru yw'r digwyddiad mwyaf o’i fath i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Varsity Prifysgolion Prydain, yn dilyn y gystadleuaeth rhwng Rhydychen a Chaergrawnt.

Welsh Varsity Cymru Yn ystod yr Her, bydd dros 900 o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros deg ar hugain o gampau dros gyfnod o bum diwrnod, gan gynnwys: pêl-fasged, rhwyfo, golff, hoci, nofio, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Bydd y gystadleuaeth yn codi i uchafbwynt â'r gêm rygbi fawr bydd yn cael ei chynnal o flaen torf o filoedd yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Mae’r gêm rygbi Varsity wedi tyfu’n flynyddol ers iddi gychwyn ym 1997 a chynhaliwyd y gornestau am-yn-ail rhwng Parc yr Arfau a maes San Helen. Ers adleoli’r gêm i gyrchfan rygbi eiconig Caerdydd yn 2011, mae’r gêm rygbi flynyddol wedi denu mwy na 50,000 o dyrfa, a disgwylir Stadiwm Liberty fod dan ei sang yn ystod y gêm rygbi, penllanw’r Her Varsity.

 

'Profiad arbennig'

Meddai Felix Mmeka, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Fel Swyddog Chwaraeon yr Undeb, rwy’n falch iawn bydd Varsity Cymru 2016 yn dychwelyd i Abertawe. Bydd chwarae yma yn Abertawe yn brofiad arbennig iawn i’n athletwyr, a ‘dwi’n siŵr bod ein myfyrwyr yn edrych ‘mlaen yn arw at yr ornest ym mis Ebrill!”

Bydd tocynnau ar gael o ddydd Iau 28 o Ionawr. Bydd pecynnau i fyfyrwyr ar gael am £22.50 o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.  Mae’r pecynnau’n cynnwys tocyn i’r gêm rygbi, crys-T swyddogol, cludiant i ac o'r gêm a thocyn i’r parti ar ôl y gêm.

Bydd tocynnau ar werth i'r cyhoedd o Stadiwm Liberty ddiwedd mis Chwefror.

Gwyliwch: Her Varisty Cymru