Etifeddiaeth barhaus i Gampws y Bae wrth i’r Neuadd Fawr eiconig agor ei drysau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (14 Mawrth 2016) agorodd y Neuadd Fawr ei drysau i ddarparu cartref eiconig newydd i Gelfyddydau Prifysgol Abertawe, a leolir yng nghanol datblygiad Campws y Bae, sy’n werth £450 miliwn.

Wedi’i ddatblygu gan St. Modwen, dyluniwyd y cyfleuster £32 miliwn hwn gan y pensaer o ragoriaeth fyd-eang Dr. Demetri Porphyrios ac mae’n ymgorffori darlithfeydd a gofodau addysgu a thrafod ar y llawr gwaelod ac Awditoriwm 700 sedd a chaffi/bar ar y llawr cyntaf gyda balconi lle ceir golygfeydd godidog o Fae Abertawe. O orielau allanol y Neuadd Fawr, ceir golygfeydd hynod lle bydd cyfle i’r campws a’r gymuned ehangach gymdeithasu ac edmygu arddangosfeydd fydd i’w gweld yn yr oriel.

The Great HallMae gan Awditoriwm Syr Stanley Clarke y Neuadd Fawr acwsteg sydd bron yn berffaith. Mae’n darparu gofod newydd ar gyfer lleoliad i’r celfyddydau diwylliannol a ail ddychmygwyd a chyngherddau i’r Brifysgol sydd yn estyn allan y tu hwnt i Gymuned y Campws. Mae’n adeiladu ac yn ategu darpariaeth celfyddydau diwylliannol y Brifysgol yng Nghanolfan Taliesin sy’n cynnig rhaglen gelfyddydol broffesiynol o theatr, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol a chrefft a sinema ac mae hefyd yn gweithio fel cynnyrch creadigol yn datblygu prosiectau creadigol sy’n teithio o gwmpas Cymru a’r tu hwnt. Yn ogystal, y Neuadd Fawr fydd y ‘lleoliad cartref’ ar gyfer ein myfyrwyr â dawn gerddorol a fydd, o dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd, yn ffurfio calon rhaglen gerddoriaeth adfywiedig Prifysgol Abertawe. Gydag offerynnau o ansawdd a lleoliad o’r radd flaenaf, bydd Prifysgol Abertawe’n cynnal perfformiadau rheolaidd gan ei cherddorfa myfyrwyr ei hun a grwpiau eraill.

I nodi ei hagor yn swyddogol, bydd y Neuadd Fawr wedi'i goleuo yn y nos drwy'r wythnos.

Meddai'r Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Ni fyddai'r Neuadd Fawr eiconig wedi bod yn bosib heb gefnogaeth BP, sydd wedi cefnogi datblygiad Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae, i sicrhau creu cyfleusterau campws o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Neuadd Fawr wrth wraidd ein campws newydd, ac mae'n ganolfan i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ddod at ei gilydd i ddathlu gwyddoniaeth ac arloesi, a hefyd diwylliant a'r celfyddydau, mewn awditoriwm gwirioneddol ysblennydd. Mae hwn yn gyfleuster cyngherddau a chynadleddau newydd o safon fyd-eang i Gymru ac mae'n fan ysbrydoledig lle gall y cyhoedd ymuno â chymuned y campws mewn amgylchedd gwirioneddol arbennig."

 Ychwanegodd Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol St. Modwen: "Mae Campws y Bae yn adnabyddus fel un o'r prosiectau mwyaf uchelgeisiol yn sector addysg uwch y Deyrnas Unedig ers degawdau, ac mae St. Modwen wedi chwarae rhan hanfodol wrth wireddu'r weledigaeth drwy sicrhau yr adeiladwyd y prosiect i'r un manylder ag y'i cynlluniwyd. Mae'r Neuadd Fawr, a gwblhawyd yn ddiweddar, yn dystiolaeth o hyn, ac enwi'r prif awditoriwm yn ffurfiol ar ôl sylfaenwr St. Modwen, Syr Stanley Clarke, yw'r sêl bendith eithaf. Gobeithiwn y bydd y myfyrwyr a'r gymuned leol yn mwynhau'r cyfleuster yn helaeth am genedlaethau i ddod."

 Fideo: gwyliwch y Neuadd Fawr yn cael ei hadeiladu.