Gallai archwiliadau strwythuredig leihau sgil effeithiau cyffuriau ar gyfer pobl a chanddynt ddementia

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe ar bobl a chanddynt ddementia sy’n byw mewn cartrefi gofal ac sy’n cymryd meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer eu hiechyd meddwl, wedi canfod bod archwilio strwythuredig gan eu nyrsys wedi arwain at welliannau mewn arferion presgripsiynu a rheoli poen a mwy o ymwybyddiaeth o sgil effeithiau anffafriol.

Dementia care

Gwnaeth yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn PLOS ONE, ac a gynhaliwyd gan dîm o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd  a’r Ysgol Feddygol yn y Brifysgol, edrych ar y posibilrwydd y gallai monitro manylach o sgil effeithiau meddyginiaethau wedi’i arwain gan nyrsys helpu i leihau’r effeithiau hyn, a adwaenir hefyd fel Adweithiau Anffafriol i Gyffuriau (ADRau) ataliadwy. Gwyddys bod adweithiau anffafriol i gyffuriau’n cael effeithiau sylweddol ar gleifion a’r GIG, ac maent yn arwain at:-

  • 5-8% o dderbyniadau annisgwyl i’r ysbyty yn y DU¹
  • 20.8% (60/290) o ail-dderbyniadau brys ataliadwy i’r ysbyty o fewn blwyddyn o ryddhau cleifion² 
  • 4-6% o ddefnydd gwlâu mewn ysbytai yn y DU³ 
  • £1-2.5bn mewn costau blynyddol i’r GIG4  

Astudiaeth

Canolbwyntiodd y tîm ymchwil ar sampl o 41 o gleifion yn byw mewn pum cartref gofal a oedd yn cymryd meddyginiaeth o dri grŵp allweddol: -

  • Gwrth-seicotigion
  • Gwrth-epileptigion
  • Gwrth-iselyddion

Dilynodd y nyrsys a gymerodd ran yn yr astudiaeth Broffil Meddyginiaethau Iechyd Meddwl ADR Gorllewin Cymru (WWADR) gyda’u cleifion. Helpodd hyn i ddarparu fframwaith strwythuredig ar gyfer gofal nyrsio arferol, gyda’r nod o:-

  • leihau adweithiau anffafriol i gyffuriau heb beryglu buddion meddyginiaethau
  • adnabod, monitro a mynd i’r afael ag unrhyw adweithiau anffafriol posibl i gyffuriau sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau sydd wedi’u rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl
  • sicrhau y caiff problemau eu cyfleu i’r rhai sy’n rhagnodi’r meddyginiaethau  
  • hwyluso gwneud penderfyniadau ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth ac o fewn y tîm amlddisgyblaethol.

Canlyniadau

Canfu’r astudiaeth y gallai cyflwyno Proffil WWADR ar gyfer Meddyginiaethau Iechyd Meddwl wella ansawdd a diogelwch gofal ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia.

Gallai defnyddio Proffil WWADR helpu i gynyddu ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol a chleifion o adweithiau anffafriol i gyffuriau. Byddai hefyd yn mynd i’r afael â phryderon cyrff cyhoeddus ynghylch sgil-effeithiau neu ddiffyg cofnodi adweithiau anffafriol i gyffuriau1 neu reoli is-optimaidd o ran meddyginiaethau (er enghraifft, yr Adroddiad Ymddiried mewn Gofal5). Gallai hefyd helpu i wella:-

  • rheoli poen i bobl a chanddynt ddementia
  • rhannu gwybodaeth ynghylch presgripsiynau mewn modd rhagweithiol a brydlon pan gaiff cleifion eu trosglwyddo rhwng lleoliadau gofal
  • gweithredu’r argymhellion gan ymchwiliadau i fethiannau mewn gofal iechyd5,6.

Meddai Dr Sue Jordan a arweiniodd yr astudiaeth: “Gwnaethom ganfod bod mwy o fonitro ac ymyrryd yn effeithiol, yn gost isel, yn risg isel ac yn hwylus i ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol. Mae’n cynnig arbedion cost posib a gofal sy’n fwy diogel ac o ansawdd gwell.  Mae’n ddefnyddiol nodi nad yw proffiliau’n disodli gwybodaeth neu brofiad clinigol, ond maent yn dod â gwybodaeth am arwyddion a symptomau at ei gilydd mewn asesiad cryno a ffurfiol, ac maent yn awgrymu datrysiadau i broblemau a allai fod yn gysylltiedig â meddyginiaethau presgripsiwn. Mae angen cynnal treialon ar raddfa fwy rhwng canolfannau gwahanol er mwyn ceisio archwilio effeithiau hirdymor monitro meddyginiaethau strwythuredig ar ganlyniadau clinigol, llwythi gwaith nyrsys a phontio’r blwch rhwng cleifion a rhagnodwyr.”