Myfyrwyr o Abertawe wedi’u dethol ar gyfer 'Rhaglen Interniaeth Caerdydd 2017’ Cynghrair Pencampwyr UEFA FAW

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi cyhoeddi y bydd tri myfyriwr israddedig o brifysgolion yng Nghymru - gan gynnwys dau o Brifysgol Abertawe - yn cael lle ar ei ‘Rhaglen Interniaeth Caerdydd 2017’ ar gyfer Cynghrair Pencampwyr UEFA.

FAW logoFel rhan o’i hymrwymiad i sicrhau etifeddiaeth barhaus i ‘Caerdydd 2017’ yng Nghymru, a phrofiadau dysgu cadarnhaol trwy gynnal y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd, mae’r FAW wedi ariannu dwy interniaeth israddedig mewn prifysgolion yng Nghymru.  

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gofynnwyd i bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru enwebu israddedigion i fod yn rhan o’r rhaglen interniaeth a ariennir gan FAW, gan roi’r cyfle i ddau fyfyriwr yng Nghymru fod yn rhan o gynnal y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn 2017.

Gofynnwyd i’r holl brifysgolion hysbysebu’r rhaglen interniaeth ‘Gweinyddydd Prosiect Caerdydd 2017’, asesu ceisiadau a dewis y pum ymgeisydd gorau. Yna aeth y FAW ati i lunio rhestr fer trwy edrych yn fanwl ar y ceisiadau cyn cynnal dwy rownd o gyfweliadau a dewis y ddau ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rolau.

Yn ogystal, i gydnabod gwerth cymryd rhan yn Rhaglen Interniaeth Caerdydd 2007, mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn ariannu trydedd interniaeth.

Bydd y FAW yn croesawu Harry Cordey ac Alys Pride o Brifysgol Abertawe a Kate Warde o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i fod yn rhan o dîm prosiect Caerdydd 2017.

Cyhoeddwyd llwyddiant y FAW yn ei gais i gynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017 a Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr y Menywod UEFA mewn cynhadledd gyda’r wasg yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2015. Un o elfennau allweddol cynllun strategol FAW oedd cynnal y rowndiau terfynol pêl-droed mawr. At hynny, bu sicrhau bod digwyddiadau o’r fath yn cael effaith gadarnhaol barhaus ar Gymru bob amser yn flaenoriaeth allweddol.

Meddai Alan Hamer, Cyfarwyddwr Prosiect FAW – Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017: “Rydym wrth ein boddau gyda’r ffordd y mae’r prifysgolion wedi ymateb i Raglen Interniaeth Caerdydd 2017 y FAW, a’u cydnabyddiaeth o werth rhaglen o’r fath i israddedigion yng Nghymru.

“Mae hyn yn enghraifft o ymrwymiad FAW i sicrhau y caiff cyfleoedd etifeddiaeth eu huchafu. Hoffwn groesawu Harry, Alys a Kate i’r rhaglen.”

Ychwanegodd yr Athro Marc Clement, Deon yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’r Ysgol Reolaeth wrth ei bodd ei bod yn gallu datblygu’r cydweithrediad gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’n bleser gennyf nodi, yn ogystal â’r interniaeth a gynigiwyd i Alys Pride, y byddwn yn noddi myfyriwr israddedig ychwanegol, Harry Cordey, a fydd yn cwblhau interniaeth 12 mis gyda’r FAW yn dechrau yn yr haf fel rhan o’i astudiaethau mewn Economeg a Busnes.

“Bydd hyn yn gyfle gwych iddo fod yn rhan o’r digwyddiad mawreddog hwn a bydd e’n gallu defnyddio’r sgiliau y bydd yn eu hennill drwy gymryd rhan yn y rhaglen yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Chris Bailey, Cydlynydd Symudedd Myfyrwyr, yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe:  “Mae’r Ysgol Reolaeth yn ymrwymedig i sicrhau dyfodol ein myfyrwyr ac yn ogystal â chynnig cyfle gwych i’n myfyrwyr brofi digwyddiad mawreddog yn Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017, mae hefyd yn cadarnhau gwaith caled ein Timoedd Lleoliadau a Gyrfaoedd er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl. 

“At hynny, pa ffordd well sydd o ddangos ymrwymiad cryf yr Ysgol Reolaeth i hyrwyddo cyfleoedd i’n myfyrwyr na noddi ein lleoliad arbennig ein hunain hefyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.” 

Mae Rhaglen Interniaeth Caerdydd 2017 yn un o nifer o fentrau a gaiff eu rhoi ar waith fesul cam dros y 18 mis sydd i ddod, sydd oll wedi’u dylunio i uchafu cyfleoedd mewn tri maes allweddol,  a ddiffinnir gan y FAW fel ei nodau allweddol wrth sicrhau perthnasedd i Gymru; Ymgysylltu â chenedl gyfan; darparu’r digwyddiad gorau i bawb, a; sicrhau etifeddiaeth barhaus.