Prifysgol Abertawe i gynnal Rhaglen Apêl BBC Plant Mewn Angen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd y tenor a’r darlledwr, Wynne Evans, yn cyflwyno noson o adloniant Cymreig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe fel rhan o ddarllediad Rhaglen Apêl BBC Plant Mewn Angen ar ddydd Gwener 18 Tachwedd.

Wynne EvansBydd Wynne yn cychwyn y diwrnod trwy gyflwyno rhaglen arbennig i godi arian rhwng 9am a 1pm ar BBC Radio Wales cyn iddo gyflwyno’r Rhaglen Apêl o Abertawe a fydd yn cael ei darlledu ar draws y DG ar BBC One o 7pm. 

Bydd perfformiadau byw gan Wynne Evans, Baby Queens, Tenors of Rock, a Jodi Bird.

Hyd yn hyn, mae’r cyhoedd wedi codi dros £848 miliwn i BBC Plant Mewn Angen. Y llynedd, codwyd £55 miliwn, y swm uchaf yn hanes yr Elusen.

Bob blwyddyn, mae’r arian a arian a godir yn mynd at helpu plant a phobl ifanc mewn cymunedau dros Gymru sy'n cael eu heffeithio gan ystod o anfanteision, gan gynnwys digartrefedd, esgeulustod, amddifadedd, salwch a phrofedigaeth. Ar hyn o bryd, mae BBC Plant Mewn Angen yn ariannu 19 prosiect sydd gwerth £ 1.2 miliwn.

Yn dilyn y Rhaglen Apêl fyw, bydd BBC One Wales yn darlledu Pudsey’s Big Welsh Party ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, rhaglen uchafbwyntiau a fydd yn cynnwys y darnau gorau o'r noson Apêl, a digwyddiadau o Brifysgol Abertawe ac o Gymru.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy-Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe yn hynod o falch o fod yn cynnal y darllediad byw o raglen apêl Plant Mewn Angen yn awditoriwm Syr Stanley Clarke yn y Neuadd Farw, Mae Plant Mewn Angen yn elusen go arbennig sy’n codi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn, ac rydym yn hynod falch o fod yn rhan ohoni. Rwy’n siŵr bydd ein staff a’n myfyrwyr yn weithgar iawn yn eu hymdrechion i godi arian i’r elusen eleni.”

Children in Need Ychwanegodd Jemma Wray, Pennaeth  Plant Mewn Angen Cymru: “Rydym wrth ein boddau o fod yn cynnal y Rhaglen Apêl yn Abertawe eleni. Mae Plant Mewn Angen yn cefnogi ystod eang o brosiectau yn ardal Abertawe sy’n helpu i drawsnewid bywydau plant a phobol ifanc difreintiedig. Mae’r gefnogaeth rydym yn cael gan y cyhoedd yn anhygoel bob blwyddyn, a gobeithiwn na fydd eleni’n wahanol! Mi fydd y Rhaglen Apêl yn fwy nag erioed eleni, a gobeithiwn y gall pawb dros Gymru ymuno â ni a chymryd rhan mewn amryw ffyrdd.”

Mae tocynnau'n rhad ac am ddim, ac ar gael o Ganolfan Celfyddydau y Taliesin.