Ymchwilwyr yn canfod cysylltiad rhwng defnyddio gwrthiselyddion ac anomaleddau cynhenid neu farw-enedigaethau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academyddion ym Mhrifysgol Abertawe wedi cynnal dadansoddiad ymateb dos sy’n awgrymu bod gan fenywod beichiog sy’n cymryd math penodol o wrthiselydd yn ystod beichiogrwydd cynnar risg fach ond sylweddol uwch o roi genedigaeth i fabanod a chanddynt anomaleddau cynhenid mawr (a elwir weithiau’n namau geni) neu farw-enedigaethau o’u cymharu â’r rhai nad oeddent wedi cymryd yr iselyddion hyn.

Pregnant womanArweiniwyd y tîm ymchwil rhyngwladol o academyddion o’r DU, Denmarc a Norwy gan yr Athro Sue Jordan, o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd . Gwnaeth yr astudiaeth a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn PLOS ONE, ddadansoddi data ar dros 500,000 o fabanod yng Nghymru, Norwy a Denmarc a chanfu fod risg menywod a oedd wedi cymryd atalyddion adamsugno serotonin dewisol, a elwir yn SSRIau (selective serotonin reputake inhibitors) ar bresgripsiwn yn nhymor cyntaf y beichiogrwydd  neu dri mis cyn y beichiogrwydd, yn fach ond yn sylweddol uwch o ran cael babanod ag anomaleddau cynhenid, yn benodol namau difrifol yn y galon neu farw-enedigaethau o’u cymharu â’r rhai nad oeddent yn cymryd SSRIau.

Canfu’r astudiaeth, mewn achosion pan nad oedd y menywod yn cymryd SSRIau, fod 6 ym mhob 200 beichiogrwydd â chanlyniad marw-enedigaeth neu faban ag anomaledd cynhenid mawr, ond pan oedd menywod yn cymryd SSRIau, cynyddodd hwn i 7 mewn 200. Dywed y tîm fod y risg hon o bwys i iechyd y cyhoedd oherwydd difrifoldeb y canlyniad a chan fod 5.5% o fenywod beichiog yng Nghymru,  2.1% yn Nenmarc ac 1.6% yn Norwy yn cymryd SSRIau presgripsiwn.

Bellach, mae’r ymchwilwyr yn galw ar weithwyr proffesiynol gofal iechyd i gymryd y camau gweithredu canlynol:-

  • adolygu’r holl fenywod sy’n gofyn am bresgripsiynau SSRI ac nid yn unig y rhai sy’n cynllunio beichiogrwydd.
  • ystyried bod gan fenywod sy’n camddefnyddio sylweddau neu alcohol risg uwch o ganlyniadau beichiogrwydd anffafriol pan gymerant SSRIau presgripsiwn
  • gwerthuso gofal cyn-beichiogrwydd pan roddir SSRIau presgripsiwn i fenywod
  • ystyried cynnig sganiau manylach i fenywod sydd mewn perygl i ganfod namau difrifol ar y galon  
  • sicrhau bod lefelau priodol o ofal newydd-anedig ar gael i fenywod mewn perygl adeg geni

Professor Sue Jordan Meddai’r Athro Jordan: “Hyd y gwyddom, dyma’r dadansoddiad ymateb dos cyntaf sy’n dangos y cysylltiad rhwng dosau SSRI ac anomaleddau cynhenid a marw-enedigaethau, ac er bod y risg ychwanegol hon i bob golwg yn ymddangos yn un fach, yn fy marn i, mae’r canlyniadau mor ddifrifol ag y gallent fod.

“Ni ddylai menywod stopio cymryd SSRIau heb siarad â’u meddygon, ac nid ydym yn dweud y dylent stopio cymryd pob math o feddyginiaethau, ond ein neges yw ein bod am i’n gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fod yn ymwybodol iawn o’r cysylltiad hwn ac i gymryd y camau gweithredu priodol i sicrhau bod menywod yn cael y math cywir o ofal cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd er mwyn lleihau’r risg o anomaleddau cynhenid a marw-enedigaethau sy’n gysylltiedig ag SSRIau.”

Meddai’r Athro Helen Dolk, a arweiniodd prosiect EUROmediCAT: “Ni ddylai menywod stopio cymryd SSRIau heb drafod â’u meddyg fuddion a risgiau SSRIau a therapïau amgen nad ydynt yn rhai ffarmacolegol, gan fod iechyd meddwl da yn bwysig i’r fam ac i’r plentyn”.

I ddarllen yr astudiaeth, cliciwch yma