Aneirin Karadog yn cipio’r Wobr Farddoniaeth yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r Prifardd Aneirin Karadog, myfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, oedd enillydd y Wobr Farddoniaeth gyda’i ail gasgliad o gerddi, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas).

Mae’r gyfrol Bylchau yn gasgliad sy’n myfyrio ar y bylchau a adewir gan golled bersonol a chyhoeddus, a cholled i iaith a diwylliant, ac am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny drachefn.

Aneirin Karadog - Llyfr y Flwyddyn 2017Wrth dderbyn y Wobr, meddai Aneirin: “Roedd cael enwebiad yn fraint yn ei hunan, ond mae'r ffaith fod Bylchau, fy ail gyfrol, wedi ennill y categori barddoniaeth, fel y gwnaeth fy nghyfrol gyntaf o gerddi, O Annwn i Geltia, yn fy llenwi â balchder ond hefyd yn dod â thon o wyleidd-dra drosof. Mae meddwl fod grŵp o feirniaid wedi mynd ati i ddarllen, trafod a gwerthfawrogi fy ngwaith yn anrhydedd. Yr hyn ddylai pob bardd ei ddeisyfu yw fod yna fywyd pellach i gerddi wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi, ac nid disgwyl i waith gorffenedig hel llwch yn eistedd ar silff. Mae'r sylw a ddaw felly o wobr fel hon ac o ennill y categori barddoniaeth yn gallu golygu canfod cynulleidfaoedd newydd. Ond yn bwysicach man hyn oll yw cael bod yn rhan o ddathliad o lyfrau Cymraeg, gan bod y diwydiant ar y cyfan yn iachach nag y bu erioed o ran y gwaith mae'r gweisg yn ei wneud a'r doniau sydd ledled Cymru o ran awduron”.

Y panel beirniadu Cymraeg eleni oedd: y beirniad llenyddol Catrin Beard; y bardd ac awdur Mari George; ac Eirian James, perchennog y siop lyfrau annibynnol arobryn, Palas Print yng Nghaernarfon.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Roedd hi’n hyfryd iawn gweld Aneirin yn dod i’r brig yng nghategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn eleni. Mae Bylchau yn gyfrol arbennig iawn ac mae’r Academi gyfan yn falch iawn o lwyddiant haeddiannol Aneirin. Roedd hi mor braf bod Aneirin ac un arall o aelodau’r Academi, yr Athro Alan Llwyd, ar y rhestr fer eleni. Mae’n adlewyrchu’r bwrlwm academaidd a chreadigol Cymraeg sy’n nodwedd o Academi Hywel Teifi”.

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu’n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr”.

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn ac i weld y rhestr lawn o enillwyr, cliciwch yma.