Athro Cyswllt yn y Gwyddorau Cymdeithasol yn dod yn un o Brif Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Susanne Darra, Athro Cyswllt yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn Prif Gymrodoriaeth gan yr Academi Addysg Uwch – sef y corff cenedlaethol sy'n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu ac sy'n gweithio gyda llywodraethau, prifysgolion ac academyddion yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Dr Susanne DaraMae Dr Darra yn un o nifer gyfyngedig o addysgwyr yn unig yn y Deyrnas Unedig i dderbyn gwobr fwyaf neilltuol y sefydliad.

Derbyniodd Dr Darra, sydd wedi’i lleoli yn yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol ar Gampws Parc Singleton, ei Phrif Gymrodoriaeth i gydnabod ei chofnod cyson o gael effaith a dylanwad strategol o ran addysgu a dysgu sy'n ymestyn y tu hwnt i'w sefydliad ei hun.

Ers ymuno â Phrifysgol Abertawe ym 1999, mae Dr Darra wedi cael sawl swydd arweiniol gan gynnwys rolau Pennaeth Addysg Bydwreigiaeth ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wrth sefydlu enw da am ragoriaeth ym maes ymchwil ac mewn addysgu.   

Fel ymchwilydd hynod weithgar, mae Dr Darra wedi datblygu proffil ymchwil helaeth gan gyhoeddi'n eang ym meysydd addysg a bydwreigiaeth.

Mae'r gweithgareddau ymchwil hyn yn ategu cyfraniad Dr Darra at fydwreigiaeth a disgyblaethau cysylltiedig ar draws nifer o feysydd ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn wedi cynnwys bod yn Gyn-gadeirydd Grŵp Addysg Bydwreigiaeth Cymru Gyfan ac yn Gyn-ddirprwy Gadeirydd Grŵp Cyfeirio Strategol Bydwragedd Arweiniol dros Addysg ar draws y Deyrnas Unedig.

Bu Dr Darra'n gwasanaethu fel arholwr allanol ac adolygydd rhaglenni mewn sawl sefydliad dros y 10 mlynedd diwethaf.  Cwblhaodd adolygiad o oruchwyliaeth broffesiynol i fydwragedd ar ôl cael ei gwahodd i gynnal yr adolygiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.  Mae gwobr Prif Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn cydnabod gwaith arloesol a datblygiadau helaeth Dr Darra ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. 

Gan siarad am y wobr, meddai Dr Darra: "Mae'n anrhydedd mawr dod yn un o Brif Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch, sy'n sefydliad sydd wrth wraidd y gwaith o hyrwyddo a datblygu rhagoriaeth mewn Addysg Uwch.

"Prif Gymrodoriaeth yw gwobr uchaf yr Academi Addysg Uwch ar gyfer addysgu ac rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn fy mod wedi derbyn y wobr hon. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda'r Academi Addysg Uwch a'm cydweithwyr i wella gwaith yr Academi a'm Prifysgol."

Am ragor o wybodaeth am yr Academi Addysg Uwch, ewch i https://www.heacademy.ac.uk/