Discovery yn cynnig Wythnos o Waith i fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Discovery, elusen gwirfoddoli myfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr mewn cydweithrediad ag Academi Gyflogadwyedd Myfyrwyr y Brifysgol (SEA). Mae lleoliadau Wythnos o Waith (WOW) Discovery yn dechrau ar ddydd Llun y 30ain o Ionawr ac yn gorffen ar ddydd Gwener y 5ed o Chwefror.

‌Datganodd Eleanor Norton, a ymgymerodd â swydd cyfarwyddwr newydd Discovery yn ddiweddar, fod gwirfoddoli yn fanteisiol iawn i fyfyrwyr.

Dywedodd Eleanor: “Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i gymdeithasau, mae gwaith gwirfoddol yn cynnig profiadiadau gwych i CVs myfyrwyr, a gall y gwaith fod yn berthnasol i yrfaoedd ym mhob sector. Mae’n bleser gennym ni yn Discovery i weithio gyda SEA, a bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu’r sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn eu disgwyl.”

Discovery

“Mae Discovery yn mynd ati i gefnogi myfyrwyr ac yn sicrhau eu bod nhw’n ymwybodol o’u datblygiad personol ac effaith eu cyfranogiad at weithgareddau cymunedol ar eu hunain ac ar fywydau pobl eraill. Dewch i siarad â ni ar ddydd Llun er mwyn cofrestru i WOW Discovery, a chasglu'ch cerdyn adnabod gwirfoddoli.

“Trwy gydol yr wythnos, bydd sesiynau blasu ar gael i wirfoddolwyr. Er enghraifft, dddydd Llun, byddwn yn cynnal Grŵp Cymdeithasol Bydis Brynmill, sef sesiwn galw heibio cymdeithasol i aelodau cymunedol Brymilll.”

Mae SEA yn cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ym mhob cyfnod o’u taith tuag at yrfa ar ôl graddio – o gydlynu cyngor gyrfaoedd proffesiynol a rheoli amrywiaeth o leoliadau profiad gwaith.

Dywedodd Dr. Jon Howden-Evans, pennaeth SEA: “Mae Academi Gyflogadwyedd Abertawe (SEA) yn darparu rhwydwaith sy’n cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr yn amrywio o drafodaethau a gweithdai gyda chyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio sy’n cael eu cynnal gan fyfyrwyr.”

“Mae ein rhaglen Wythnos o Waith (WOW) yn cynnig lleoliad ‘blasu’ wythnos heb dâl i fyfyrwyr o fewn amrywiad o sefydliadau. Rydym yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ehangu ar eu CVs.

“Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym am eich helpu chi ddatblygu’ch sgiliau a sefyll allan yn eich gyrfa ddewisedig.

“Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod gan 94.4% o’n graddedigion swyddi o fewn chwe mis ar ôl cwblhau eu hastudiaethau ac un o’r prif resymau dros hyn yw lleoliadau gwaith Academi Gyflogadwyedd Myfyrwyr (SEA).”

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, cysylltwch â  Discovery ar discovery@swansea.ac.uk neu ffoniwch 01792 295743.