Gwirfoddolwyr Darganfod o Brifysgol Abertawe'n dod â hwyl yr ŵyl i'r gymuned

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Mercher 6 Rhagfyr, cynhaliodd gwirfoddolwyr a staff Darganfod eu cinio Nadolig cymunedol blynyddol yn Nhŷ Fulton ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda gwledd Nadoligaidd, cerddoriaeth fyw, raffl a gwerthiant crefftau, roedd pawb yn llawn hwyl yr ŵyl.

Discovery Christmas Community Meal

Cymerodd y ciniawyr ran mewn raffl a drefnwyd gan staff a gwirfoddolwyr Darganfod.

Mae Darganfod yn sefydliad a arweinir gan wirfoddolwyr, a'i nod yw cyfoethogi bywydau pobl yn Abertawe. Wedi'i sefydlu ym 1966, mae gan yr elusen gofrestredig tua 300 o wirfoddolwyr sy'n gweithio ar dros 40 o brosiectau ledled y ddinas.

 

Mae'r sefydliad yn ymdrechu i greu cymuned lle mae pobl yn cael eu trin yn gyfartal, lle nad oes neb yn gwahaniaethu yn eu herbyn a lle nad oes neb yn ddifreintiedig. Dyma pam mae Cinio Nadolig Cymunedol Darganfod yn ddigwyddiad mor arbennig.

Meddai Eleanor Norton, Cyfarwyddwr Rheoli Darganfod: “Mae myfyrwyr gwirfoddoli Darganfod wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned ehangach yn Abertawe ers mwy na 50 o flynyddoedd. Rydym yn ffodus iawn bod gennym amrywiaeth eang o gyfleoedd i gefnogi pobl a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Mae'r Cinio Nadolig Cymunedol yn ffordd wych o ddod â llawer o bobl ynghyd i ddathlu.

Discovery Christmas Community Meal

Kirsty Rowles (Rheolwr Gwirfoddolwyr a Gefnogir) a Karin (Gwirfoddolwr a Gefnogir).

Daeth y digwyddiad â mwy na 90 o bobl o gymunedau amrywiol ynghyd, gan gynnwys grŵp o fenywod sy'n geiswyr lloches, preswylwyr hŷn o ardaloedd Uplands, Bryn Mill a St Thomas, yn ogystal â grwpiau anabledd yn Abertawe. Gyda chymorth tîm arlwyo'r Brifysgol a chyfraniadau gan Farchnad Abertawe roedd y noson yn ymdrech gymunedol go iawn.

Meddai Josh Rees, y myfyriwr sy'n cydlynu ac yn trefnu'r digwyddiad: "Y cinio Nadolig cymunedol yw ein cyfle i ddileu'r rhwystrau rhwng y gymuned a myfyrwyr. Efallai nad yw'n ymddangos yn rhywbeth mawr i  ddarparu pryd o fwyd i bobl a allai fod ar eu pennau eu hunain, ond mae'n ffordd o ddangos bod rhywun yn gofalu."

Meddai Samantha Bowen, Swyddog Datblygu Rhaglenni Ymgyrraedd yn Ehangach: "Mae pawb yn Ymgyrraedd yn Ehangach yn credu ei bod yn bwysig cefnogi Darganfod a'r pethau gwych maen nhw a'u gwirfoddolwyr yn eu gwneud. Mae'r Nadolig yn adeg i ddod ynghyd, ond mae llawer o bobl yn y gymuned yn teimlo'n hollol unig."

"Mae'n fwy na phryd o fwyd yn unig, mae'n gyfle i ddangos pa mor bwysig yw bod yn rhan o'r gymuned i'r Brifysgol. Yn y bôn, mae'n gyfle gwych i'r myfyrwyr ac aelodau eraill o'r gymuned ddod i adnabod ei gilydd a meithrin perthnasoedd."