Prifysgol Abertawe’n lansio gŵyl wyddoniaeth newydd yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd Prifysgol Abertawe’n arddangos ei gwaith ymchwil ysbrydoledig i bobl Abertawe wrth iddi lansio gŵyl newydd sbon yn y ddinas ar gyfer mis Medi.

Cynhelir Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe rhwng 8 - 10 Medi 2017. Mae’r Ŵyl newydd hon yn dilyn llwyddiant aruthrol Gŵyl Wyddoniaeth Prydain a gynhaliwyd yn y ddinas ym mis Medi'r llynedd. Denodd yr Ŵyl dros 25,000 o ymwelwyr, a chafodd gwaith ymchwil y Brifysgol mwy o sylw yn y wasg ryngwladol nag erioed o’r blaen.

Bydd holl ddigwyddiadau’r Ŵyl am ddim yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, partner yr Ŵyl, gan gychwyn gyda digwyddiad i oedolion ar nos Wener 8 Medi. Yna fe fydd penwythnos lawn o weithgareddau i’r teulu.

 Pro VC Hilary Lappin-ScottEr bod y rhaglen derfynol yn dal i gael ei gadarnhau, bydd yr Ŵyl yn wledd o adloniant i'r teulu cyfan, ac yn cynnig cyfle i bawb ddysgu mwy am ein hamgylchfyd.

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, uwch-ddirprwy is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Roeddem mor falch o gynnal Gŵyl Wyddoniaeth Prydain y llynedd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda phawb yn mwynhau’r Ŵyl, yn enwedig y Penwythnos i’r Teulu a ddenodd un o’r niferoedd uchaf erioed i Amgueddfa’r Glannau.

“Dywedodd yr ymwelwyr wrthym yr hoffent weld mwy, a dyma ni - yn rhoi mwy! Roedd hynny’n ddechrau ar waddol gwyddoniaeth i Abertawe. Rydym wedi ymrwymo i gynnal digwyddiad gwyddoniaeth blynyddol yn Abertawe, gan adeiladu ar ein gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd ac impact Penwythnos i’r Teulu y llynedd wrth i ni barhau i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.

"Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gymryd rhan a mynd i’r afael â gwyddoniaeth, gan ei gwneud hi’n hwyl i'r teulu cyfan. Bydd y rhaglen yn cynnwys ystod eang iawn o waith ymchwil arloesol ein hacademyddion yma yn Abertawe”.

Ychwanegodd Steph Mastoris, pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Mae’r amgueddfa’n cynrychioli 300 mlynedd o arloesi yng  Nghymru, felly mae’n hyfryd gweld y genhedlaeth newydd o arloesiadau gwyddonol ac ymchwil sy'n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe yn dod i’r Amgueddfa. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol a chroesawu pawb i’r ŵyl arbennig hon”.

Edrychwch ar luniau a fideo o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain yn Abertawe'r llynedd.