Prifysgol Abertawe yn parhau i godi drwy dablau cynghrair prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Adlewyrchir llwyddiant parhaus Prifysgol Abertawe yng nghanlyniadau tablau cynghrair diweddaraf y Complete University Guide a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 26 Ebrill).

Mae The Complete University Guide yn gosod y Brifysgol yn safle 44 allan o 129 o brifysgolion y DU, ac mae’n un o dair prifysgol yn unig yng Nghymru sydd wedi gwella’i safle ers y llynedd. Bellach, dim ond wyth safle sydd yn gwahanu prifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Mae'r tabl wedi’i seilio ar ddeg mesur ansawdd: bodlonrwydd myfyrwyr; ansawdd yr ymchwil; safonau mynediad; cymhareb myfyrwyr-staff, gwariant ar wasanaethau academaidd, gwariant ar gyfleusterau i fyfyrwyr, safon y graddau a ddyfarnwyd; bodlonrwydd myfyrwyr; rhagolygon i raddedigion a chwblhad.

Complete Uni Guide logo

 

 

 

 

 

 

Mewn tabl ar wahân sy’n mesur 70 o bynciau, mae pedwar o bynciau Abertawe’n ymddangos yn 10 uchaf y DU.

  • Mae Astudiaethau Celtaidd wedi’i gosod yn 2ail ar ôl neidio chwe safle.
  • Mae Meddygaeth bellach yn y 3ydd safle, gyda Rhydychen yn 1af, a Chaergrawnt yn 2ail.
  • Meddygaeth Gyflenwol sy'n rhan o'r cwrs Osteopatheg yn 1af yn y DU. 
  • Mae Technoleg Feddygol yn y 7fed safle.

Mae wyth pwnc yn ymddangos yn yr 20 uchaf:

  • Gwyddor Chwaraeon
  • Technoleg Deunyddiau
  • Polisi Cymdeithasol
  • Peirianneg Awyrofod a Gweithgynhyrchu
  • Astudiaethau Americanaidd
  • Peirianneg Gemegol
  • Marchnata

Mae 13 pwnc arall wedi’u rhestri rhwng safleoedd 21 - 30. Mae Cymdeithasu wedi neidio 13 lle i safle 47, ac mae Seicoleg bellach yn safle 24, chwe safle’n uwch nag y llynedd.

Mae'r newyddion ardderchog hyn yn  dilyn cyfres o lwyddiant diweddar i’r Brifysgol, gan gynnwys: cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng ngwobrau Whatuni?, gan gynnwys category Prifysgol y Flwyddyn am y bumed flwyddyn yn olynol; cael ein rhestri ar y brig yng Nghymru yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times a’r Sunday Times 2017 - yn ogystal â chipio teitl Prifysgol y Flwyddyn Cymru.

Ym mis Mawrth, dangosodd canlyniadau’r QS World University Rankings by Subject 2017 fod disgyblaethau Peirianneg y Brifysgol yn parhau i berfformio'n dda; cadwodd Peirianneg Sifil, Strwythurol, Mecanyddol, Awyrennol a Gweithgynhyrchu eu lle ymhlith y 200 uchaf y byd, gyda Pheirianneg Gemegol yn ymuno â’r 300 uchaf. Cafodd Mathemateg, Y Gyfraith, Meddygaeth a Ffiseg ei rhestri yn y tablau cynghrair byd-eang dylanwadol hefyd.

Croesawodd yr Athro Hilary Lappin-Scott, dirprwy is-ganghellor, y newyddion: “Rydym yn falch dros ben o weld Abertawe’n dringo tablau’r Complete University Guide eto eleni, gan gau’r bwlch rhyngom a Chaerdydd i wyth safle. Mae hyn yn arwydd clir bod dwy brifysgol o’r radd flaenaf yng Nghymru, y ddwy’n cyrraedd safleoedd tebyg yn nhermau ansawdd a rhagoriaeth. Mae ein llwyddiant parhaus yn y tabl hwn ac eraill yn y DU a thablau cynghrair rhyngwladol yn dystiolaeth o'n perfformiad ac enw da’r brifysgol am ddarparu addysg o'r ansawdd gorau, ymchwil, boddhad myfyrwyr a swyddi i raddedigion".