Y Golau gwyrdd ar gyfer canolfan £35m i yrru ymchwil o’r radd flaenaf ym Mae Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae buddsoddiad gwerth £35m i adeiladu, cyfarparu a gweithredu canolfan fodern ar gampws Bae Prifysgol Abertawe i yrru ymchwil o’r radd flaenaf yn y sector uwch-beirianneg yn cael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford heddiw (16.03.17).

Mae cyllid o £17.4m oddi wrth yr UE yn cael ei fuddsoddi yn IMPACT (Deunyddiau Arloesol, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol) i helpu i sefydlu canolfan ragoriaeth yn ardal Bae Abertawe.

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys labordy a gofod swyddfa fel rhan o’r Coleg Peirianneg a bydd yn cefnogi ymchwil effaith uchel ar y cyd â diwydiant i wyddoniaeth a thechnoleg arloesol i dyfu a diogelu cyfleoedd busnes yn y dyfodol yn y sector uwch-beirianneg a deunyddiau.

College of Engineering Bay Campus Bydd yn cynnwys canolfan technoleg metelau, a fydd yn cynnal ymchwil i wyddoniaeth meteleg a deunyddiau, gan gefnogi partneriaethau â’r diwydiant metelau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. Y nod yw arloesi aloeon a deunyddiau newydd a phrosesau gweithgynhyrchu metel y gellir eu defnyddio mewn peirianneg.

Bwriedir i’r ganolfan agor yn 2019, ac fe fydd yn denu 65 o swyddi academaidd newydd, medrus iawn a 155 o ymchwilwyr profiadol. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer busnesau a swyddi’r gadwyn gyflenwi leol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Mae cyllid yr UE yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sefydlu’r ganolfan ragoriaeth, a fydd yn helpu i hybu technolegau newydd, arloesol yn y sector peirianneg yng Nghymru."

‌Bydd ymchwil IMPACT yn canolbwyntio ar brosesau gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf, gan gynnwys roboteg ac awtomeiddio; uwch strwythurau awyrofod a moduro. Bydd ymchwil hefyd yn cynnwys nodweddu ac efelychiad cyfrifiadurol ar gyfer  dealltwriaeth ac optimeiddio prosesau gweithgynhyrchu a chynhyrchion, megis tyrbinau gwynt, awyrennau a pheiriannau.

Bay Campus aerial shotBydd yr adeilad yn cael ei adeiladu yn unol â safon ardderchog BREEAM a bydd yn cynnwys amrywiaeth o fesurau i hyrwyddo cynaliadwyedd a chydraddoldeb, gan gynnwys cynefinoedd adar, paneli solar, bioamrywiaeth ar y safle a chymorth ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol.

Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym yn croesawu arian yr UE ar gyfer yr adnodd newydd pwysig hwn ar Gampws y Bae. "Bydd IMPACT yn gweithredu fel sefydliad ymchwil lled-annibynnol ag amcanion a bennir gan fwrdd gwyddonol ac sy’n cael ei gynghori gan randdeiliaid allanol o’r byd academaidd, y llywodraeth a diwydiant. 

"Y gobaith yw y bydd yn darparu amgylchedd trawsnewidiol a chynaliadwy a gaiff ei ddiogelu at y dyfodol ym maes ymchwil beirianneg. Bydd yn cyplysu datblygu a darparu technoleg o'r radd flaenaf a chydweithrediad rhwng y byd academaidd a diwydiant."