Cystadleuaeth ryngwladol Cyfathrebu Gwyddoniaeth yn dychwelyd i Abertawe yn 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Fforwm Ymgysylltu â’r Cyhoedd Prifysgol Abertawe unwaith eto'n cynnal rhagbrawf Abertawe FameLab yn 2018, sef y gystadleuaeth fwyaf yn y Deyrnas Unedig i ddarganfod doniau newydd ym maes cyfathrebu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

FameLab 2018Teitl: FameLab 2018 - rhagbrawf Abertawe

Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Ionawr

Amser: 7:30pm

Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau


Cynhelir y gystadleuaeth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mewn partneriaeth â Caffi Gwyddoniaeth Abertawe, ac mae'n agored i bawb sy'n 21 oed neu'n hŷn ac sy'n astudio neu'n gweithio mewn maes STEM, gan gynnwys athrawon mathemateg neu wyddoniaeth arbenigol.

Gan ddefnyddio'u synnwyr ac ychydig wrthrychau'n unig, bydd gan y cystadleuwyr dair munud i gyflwyno cysyniad gwyddonol o'u dewis. Asesir hwy ar dair nodwedd: cynnwys, eglurdeb a charisma.

Mae panel beirniadu eleni'n cynnwys:

  • Tim Rutter, Pennaeth Cyfathrebu Tata Steel Strip Products UK
  • Dr Tim Cockerill, sŵolegydd a pherfformiwr syrcas
  • Dr Ruth Callaway, Swyddog Ymchwil SEACAMS ym Mhrifysgol Abertawe

Mae'r rhagbrofion yn Abertawe bob amser wedi cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys sut mae pysgod rîff cwrel yn defnyddio sŵn, rhyfeddodau titaniwm deuocsid a mathemateg anfeidredd. Mae FameLab yn arddangos y rheiny y mae ganddynt y sgiliau i gyfathrebu gwybodaeth wyddonol gymhleth mewn modd dealladwy, dymunol a chryno, ni waeth beth yw'r pwnc!

Caiff hyd at bum person eu dewis o ragbrawf Abertawe ar gyfer rownd derfynol Cymru, y'i cynhelir yn Abertawe ar 28 Chwefror. Bydd enillydd y rownd derfynol ranbarthol yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ar benwythnos dosbarth meistr cyfathrebu yn Cheltenham, cyn rownd derfynol y Deyrnas Unedig yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain ar 25 Ebrill . Yna bydd yr enillydd cenedlaethol yn cystadlu'n erbyn mwy na 25 o gystadleuwyr rhyngwladol ar gyfer gwobr Pencampwr Rhyngwladol FameLab yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham The Times.

Er bod croeso i gystadleuwyr gofrestru ar y diwrnod, cynghorir eich bod yn cofrestru yn gynnar, oherwydd bydd apwyntiadau un i un ar 19 Ionawr i helpu'r cystadleuwyr i ddatblygu eu sgiliau, gyda sesiwn hyfforddi ychwanegol gan Science made Simple.

Carol Glover (2017 FameLab Swansea heat)

Meddai Carol Glover o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Deyrnas Unedig yn 2017, "Mae FameLab yn gysyniad gwych, gan gynnig llwyfan i wyddonwyr ymarfer cyfathrebu eu hangerdd ymchwil mewn modd cryno sy'n ddealladwy ac yn gyffrous i'r gynulleidfa. Mae'r profiad wedi bod yn amhrisiadwy i mi."

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Rhian Melita Morris (Coleg Gwyddoniaeth) neu Sharon Bishop (Coleg Peirianneg).