Nadolig o 'greaduriaid rhyfeddol' gyda Nick Baker

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar gyfer eu Sioe Wyddoniaeth y Nadolig, llwyddodd Oriel Science ac S4 (Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe) i sicrhau gwasanaethau rhywun eithriadol i gydweddu รข'r cyfnod arbennig o'r flwyddyn, y naturiaethwr a'r cyflwynydd teledu, Nick Baker!

Am eu bod bob amser yn awyddus i brofi pa mor ddealladwy a rhyngweithiol gall gwyddoniaeth a natur fod, trefnodd  tîm Oriel Science ddwy sioe am ddim (18 Rhagfyr) yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin gan wahodd ysgolion (Blynyddoedd 5, 6 a 7) i ddod i weld 'Creaduriaid Rhyfeddol' Nick Baker.

Siaradodd Nick am ei brofiadau o deithio'r byd yn chwilio am bopeth rhyfeddol ac anhygoel, gan ddod â llawer o hwyl a ffeithiau diddorol am fywyd gwyllt i Abertawe; o'r Andes a brogaod boliog Llyn Titicaca, i ddyfnderoedd tywyllaf ogofâu Slofenia i gwrdd â'r Olm.

Nick Baker's Weird Creatures

Meddai Damian Dalton, athro yn Ysgol Gynradd Gatholig St Illtyd: "Cafodd y disgyblion o St Illtyd eu gwefreiddio a'u difyrru, roedden nhw wrth eu boddau'n clywed am anturiaethau Nick Baker gydag anifeiliaid yn ei sioe ym Mhrifysgol Abertawe.  Diolch yn fawr i Oriel Science am ein gwahodd i sgwrs mor ysbrydoledig."

Meddai Julie Miller, athrawes yn Ysgol Gynradd Sgeti: "Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 fore gwych yn sioe Nick Baker. Roedden nhw'n rhyfeddu wrth yr anifeiliaid anarferol roedd wedi'u darganfod, yn enwedig y Pink Fairy Armadillo. Roedd y sioe'n ddifyr iawn ac yn addysgiadol iawn hefyd, ac roedd mor hawdd gwrando ar Nick. Diolch am fore gwych."

Mae Oriel Science yn ganolfan arddangos unigryw lle gellir hyrwyddo ymchwil STEMM Prifysgol Abertawe i'r gymuned. Eu prif nod yw tanio chwilfrydedd gwyddonol y cyhoedd, ac mae digwyddiadau fel 'Creaduriaid Rhyfeddol' yn caniatáu i Oriel Science gyflawni hyn. Gyda 638 o ddisgyblion o 11 ysgol yn dod i'r ddwy sioe, gwerthwyd pob tocyn, gan amlygu'r galw am ganolfannau fel Oriel Science yn y gymuned.

Meddai Ivor Lewis, disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Sgeti: "Roedd yn ddiddorol ac yn egsotig iawn. Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am y pink fairy armadillo."

Meddai Mary Gagen, Athro Cysylltiol Daearyddiaeth a Dirprwy Gyfarwyddwr Oriel Science:  "Roedd yn amlwg bod y myfyrwyr wedi'u swyno gan straeon anhygoel Nick am greaduriaid rhyfeddol. Roedd y gynulleidfa'n hollol dawel wrth i Nick ddisgrifio cael ei adael mewn tywyllwch llwyr mewn ogof, 4km o dan y ddaear i chwilio am Olms, salamandr chwedlonol o Slofenia, yr oedd y bobl leol yn credu mai dreigiau bach oedden nhw gynt!"

"Yn ogystal â chlywed Nick yn siarad am greaduriaid egsotig, roedd yn wych hefyd gwrando ar ei straeon am archwilio afonydd a phyllai trai yma yn y DU pan oedd yn blentyn. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ein myfyrwyr i astudio natur a gweld lle bydd hynny yn eu tywys!”

Nick Baker and Oriel Science Staff

Mary Gagen (Dirprwy Gyfarwyddwr Oriel Science), Gemma Woodhouse (Myfyriwr Llysgennad Oriel Science), Alicia Petersen (Tiwtor Allgymorth Bioleg ), Kristi Pracki (Tiwtor Allgymorth Ffiseg), Nick Baker a Hannah Williams (Tiwtor Allgymorth Bioleg).

Gyda chymorth gwesteion adnabyddus fel Nick, mae Oriel Science yn gobeithio parhau i annog myfyrwyr ifanc i ddatblygu eu diddordeb mewn gwyddoniaeth; i ddechrau bod yn fwy ymwybodol o natur a'r byd o'u cwmpas a'u hysbrydoli i ystyried astudio gwyddoniaeth a phynciau natur nes ymlaen yn eu haddysg.