Mae un ffurflen gais ar gyfer yr ysgoloriaethau a gaiff ei hasesu gan y panel dethol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cewch eich hysbysu pa lefel o ysgoloriaeth a ddyfernir i chi.
Gellir lawrlwytho'r ffurflen gais drwy'r dolenni canlynol:
Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais wedi'i chwblhau drwy e-bost i study@abertawe.ac.uk neu yn y post i'r Swyddfa Derbyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP.
Dyddiad cau
Dylech gyflwyno'ch cais cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr pan fyddwch yn cofrestru fel myfyriwr newydd.
Os ydych yn gwneud cais i'r Brifysgol ar ôl 1 Mawrth, dylech gyflwyno'ch cais am ysgoloriaeth cyn 1 Hydref.
Yn ogystal â chwblhau'r ffurflen gais, bydd angen i chi drefnu i ddau eirda gael eu hanfon atom. Gall y rhain gael eu hanfon atom yn uniongyrchol neu gyda gweddill eich ffurflen. Mae croeso i chi drefnu i'r geirdaon gael eu hysgrifennu ar bapur pennawd neu eu hanfon yn uniongyrchol drwy e-bost, yn hytrach na defnyddio'r templedi a ddarparwyd os bydd hynny'n haws.
Gellir lawrlwytho'r ffurflen geirda drwy'r ddolen ganlynol: