Croeso

Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau Cymraeg o’r ansawdd uchaf ar draws ystod o lefelau a hyfedredd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Mae'r pwyslais ar ddatblygu sgiliau siarad yr iaith yn bennaf, a bod eich perthynas gyda'r iaith Gymraeg yn wobrwyol ac yn hwyl.

Mae canolfan weinyddu Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe yn Adeilad Talbot ar Gampws Singleton, Prifysgol Abertawe, lle ceir ystod o adnoddau i gefnogi ein dysgwyr. Rydym hefyd yn darparu cyrsiau mewn sawl lleoliad a gweithle ar draws y rhanbarth, gan anelu at sicrhau bod darpariaeth ar gael i ddysgwyr sydd mor lleol a chyfleus â phosib.

Mae gennym hefyd ddwy ganolfan gysylltiol sy’n cefnogi ein hamcanion i hyrwyddo manteision dysgu Cymraeg, sef canolfannau Tŷ Tawe yng nghanol dinas Abertawe (ar Heol Christina oddi ar y Kingsway), a Tŷ'r Gwrhyd yng nghanol Pontardawe (o fewn yr un adeilad â’r Llyfrgell). ‘Rydym yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith lleol i sefydlu y canolfannau hyn yn ganolbwynt i ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg ac yn leoliadau cefnogaeth i ddysgwyr, ac maent yn leoliadau cyfleus hefyd i gael gafael ar adnoddau a nwyddau dysgu yn ogystal.

Teimlwch yn rhydd i alw yn unrhyw un o’r canolfannau hyn am wybodaeth bellach, i gwrdd â rhai o’n tiwtoriaid, neu i ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr wrth iddynt gychwyn ar eu ‘taith iaith’!

Chwiliwch yn ein catalog cyrsiau a chofrestrwch ar gwrs!

Telerau ac Amodau Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe